Enseffalitis: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
diagnosis
triniaeth
Llinell 34:
 
Yn y Deyrnas Unedig mae enseffalitis yn [[clefyd hysbysadwy statudol|glefyd hysbysadwy statudol]] felly mae'r meddyg sy'n gwneud y diagnosis yn gyfrifol am roi gwybod amdano i'r adran Iechyd Cyhoeddus leol.<ref name="diagnosis"/>
 
==Triniaeth==
Cyn i glaf sy'n dioddef o enseffalitis syrthio i goma yw'r cyfnod sydd â'r cyfle gorau i wella'n llwyr o'r afiechyd. Yn y Deyrnas Unedig mae'n rhaid i gleifion a dybir bod enseffalitis ganddynt i fynd i mewn i'r ysbyty.<ref name="triniaeth">{{dyf gwe |url=http://www.nhsdirect.wales.nhs.uk/small/cy/hafan/gwyddoniaduriechyd/e/enseffalitis/triniaeth |gwaith=Gwyddoniadur Iechyd |cyhoeddwr=[[GIG Cymru|Galw Iechyd Cymru]] |teitl=Enseffalitis: Triniaeth |dyddiadcyrchiad=13 Awst |blwyddyncyrchiad=2009 }}</ref>
 
Trinir enseffalitis firaol sydd wedi'i achosi gan herpes simplecs gyda'r cyffur gwrthfiraol [[Acyclovir]], sy'n cael ei roi bron ar unwaith os tybir achos o enseffalitis gan taw prin yw [[sgîl-effeithiau]]'r cyffur. Rhoddir drwy bigiad i wythïen ac os yw'n cael ei roi'n ddigon cynnar, gall leihau cymhlethdodau eraill. Mae Acyclovir yn hynod o effeithiol yn erbyn enseffalitis herpes simplecs ond nid yw mor effeithiol yn erbyn firysau eraill.<ref name="triniaeth"/>
 
Os yw'r claf yn dioddef o ffitiau fel symptom yna gall [[gwrthgonfylsydd]]ion, cyffuriau sy'n stopio neu'n atal ffitiau, gael eu rhoi. Mewn achosion difrifol, mae'n bosibl y bydd angen rhoi'r claf mewn [[uned gofal dwys]] fel y gall meddygon fonitro a thrin unrhyw lid ar yr ymennydd. Gall [[corticosteroid]]au gael eu rhoi i leihau llid, ynghŷd â [[gwrthfiotig]]au i atal neu drin heintiau bacteriol eraill, sy'n deillio o fod yn ddifrifol wael. Bydd mathau [[ôl heintus]] (awtoimiwn) o enseffalitis yn cael eu trin fel arfer â [[steroid]]au.<ref name="triniaeth"/>
 
==Gweler hefyd==