Alergedd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
diagnosis
triniaeth
Llinell 29:
==Diagnosis==
Wrth wneud diagnosis o alergedd bydd meddyg yn ystyried tystiolaeth y claf o hanes teuluol a thybiaeth y claf o unrhyw sbardunau sy'n ymddangos fel petaent yn achosi adwaith, e.e. a yw'n digwydd mewn man neu ar adeg benodol, ond yn aml cynhelir profion yn ogystal i gael gwybod beth yw'r union alergen. Yn aml y prawf cyntaf sy'n cael ei gynnal wrth edrych am alergen yw prawf pigo'r croen, lle bigir y croen gyda sampl fach iawn o'r alergen posib i weld a oes adwaith cadarnhaol (h.y. mae'r croen yn cosi, yn mynd yn goch, ac yn chwyddo). Cynhelir prawf gwaed i fesur faint o'r gwrthgorff IgE sydd yn y gwaed. Os yw [[ecsema]] neu [[dermatitis cyswllt|ddermatitis cyswllt]] yn symptom fe gynhelir prawf croen i ddod o hyd i'r achos gan daenu sampl fach o'r alergen posib ar ddisgiau metal arbennig sydd yna'n cael eu tapio ar y croen, am 48 awr fel rheol, i arsylwi ar ymateb y croen. Gellir hefyd cynnal prawf alergedd cartref, lle mae'r claf yn defnyddio pecynnau arbennig i geisio wneud diagnosis gartref o'r tri alergen mwyaf cyffredin: [[gwiddon llwch tŷ]], [[paill]], a [[cath|chathod]]. Mae'r pecyn yn cynnwys priciwr bys diheintiedig y mae'r claf yn ei ddefnyddio i gymryd sampl gwaed fach ac anfon y sampl hon mewn tiwb i labordy sy'n cynnal profion ac yna danfon y canlyniadau i'r claf.<ref name="diagnosis">{{dyf gwe |url=http://www.nhsdirect.wales.nhs.uk/small/cy/hafan/gwyddoniaduriechyd/a/alergeddau/diagnosis |gwaith=Gwyddoniadur Iechyd |cyhoeddwr=[[GIG Cymru|Galw Iechyd Cymru]] |teitl=Alergeddau: Diagnosis |dyddiadcyrchiad=15 Awst |blwyddyncyrchiad=2009 }}</ref>
 
==Triniaeth==
Yn syml, y dull mwyaf effeithiol o drin alergeddau yw osgoi pob cyswllt â'r alergen sy'n achosi'r adwaith. Fe ellir drin symptomau cyffredin alergeddau, megis ceg sy'n cosi a thisian, gan ddefnyddio cyffuriau, y mwyafrif ohonynt [[dros y cownter]].<ref name="triniaeth">{{dyf gwe |url=http://www.nhsdirect.wales.nhs.uk/small/cy/hafan/gwyddoniaduriechyd/a/alergeddau/triniaeth |gwaith=Gwyddoniadur Iechyd |cyhoeddwr=[[GIG Cymru|Galw Iechyd Cymru]] |teitl=Alergeddau: Triniaeth |dyddiadcyrchiad=19 Awst |blwyddyncyrchiad=2009 }}</ref>
 
Mae cyffuriau sy'n trin alergeddau yn cynnwys:
* gwrth-histaminau, sydd yn atal gweithredu gan histamin. Gallent gael eu cymryd ar ffurf [[tabled]]i, [[eli]], hylif, diferion i'r llygaid, neu ddiferion trwynol.
* cyffuriau llacio, sydd yn helpu i leddfu symptomau fel trwyn wedi'i flocio, a achosir yn aml gan [[clefyd y gwair|glefyd y gwair]], llwch, ac alergeddau i anifeiliaid. Gallent gael eu cymryd ar ffurf tabledi, [[capsiwl]]au, chwistrelliadau trwynol, neu hylif.
* chwistrelliadau trwynol, sydd yn lleihau chwyddo a chosi yn y trwyn.
* diferion i'r llygaid, sydd yn lleddfu llygaid dolurus, sy’n cosi.
* cyffuriau fel [[sodiwm cromoglicat]] a [[corticosteroid]]au, a ddefnyddir yn rheolaidd i atal symptomau rhag datblygu. Mae'r rhain ar gael yn helaeth fel chwistrelliadau trwynol a diferion i'r llygaid.<ref name="triniaeth"/>
 
Ffurf arall ar driniaeth yw [[hyposensiteiddio]], lle mae'r unigolyn yn cael ei gyflwyno'n raddol i fwy a mwy o'r alergen i annog i'r corff greu gwrthgyrff a fydd yn atal adweithiau yn y dyfodol. Gall hyn helpu pobl sydd ag alergedd penodol i rywbeth fel [[pigiad gan wenynen]].<ref name="triniaeth"/>
 
==Cyfeiriadau==