Resin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→top: manion cyffredinol a LLByw, replaced: [[File: → thumb| → |bawd| using [[Project:AWB|AWB |
mathau Tagiau: Golygiad cod 2017 |
||
Llinell 1:
{{cys-gwa|Am y bwyd, gweler [[rhesinen]].}}
[[Polymer]] naturiol neu synthetig [[hydoddedd|anhydawdd]] sy'n meddalu pan gaiff ei wresogi yw '''resin'''
<ref>[[David Crystal|Crystal, David]] (gol.), ''The Penguin Encyclopedia'' (Llundain: Penguin, 2004), t. 1294.</ref><ref>{{dyf Britannica |url=http://www.britannica.com/EBchecked/topic/499227/resin |teitl=resin (chemical compound) |dyddiadcyrchiad=4 Tachwedd 2014 }}</ref>
Dosberthir resinau naturiol yn ôl eu caledwch â'u cyfansoddiad cemegol yn dri phrif gategori: resinau caled, oleoresinau, a resinau gwm.
== Resinau caled ==
[[Delwedd:Rosin.jpg|bawd|Rosin]]
Ceir resinau caled naill ai o [[ffosil]]od neu drwy [[distyllu|ddistyllu]] oleoresinau. Mae resin o'r fath yn galed, yn frau, heb aroglau na blas iddo, ac yn edrych yn debyg i [[gwydr|wydr]] toredig os caiff ei hollti. Ymhlith y resinau caled mae [[ambr]], [[copal]], [[mastig]], [[rosin]], a [[sandrag]]. Rosin, a gynhyrchir drwy ddistyllu'r oleoresin [[tyrpant]], yw'r pwysicaf yn nhermau economaidd. Defnyddir rosin wrth gynhyrchu [[sebon]], farneis, a [[paent|phaent]], ac i gaenu bwâu offerynnau tannau.
== Oleoresinau ==
Lled-solidau di-ffurf a gludiog yw'r oleoresinau, ac maent yn cynnwys [[olew naws|olewon naws]]. Ymhlith yr oleoresinau mae tyrpent, [[balm]], [[copaïba]], a [[dreigwaed]].
== Resinau gwm ==
[[Delwedd:Somali man Myrrh tree.jpg|bawd|Dyn yn casglu myrr oddi ar goeden yn [[Somalia]].]]
Resinau sydd yn cynnwys gymiau, sef suddau gludiog ac yn aml persawrus, yw'r resinau gwm. Maent yn cynnwys [[thus]], [[myrr]], [[bensoin]], ac [[asiffeta]].
== Cyfeiriadau ==
{{cyfeiriadau}}
[[Categori:Resinau| ]]
|