Englynion y Clywaid: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crewyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Casgliad o englynion diarhebol yw '''''Englynion y Clywaid''''' (Cymraeg Canol: '''''Englynion y Clyweit'''''), a gyfansoddwyd tua diwedd ...'
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Casgliad o [[englyn]]ion [[dihareb|diarhebol]] yw '''''Englynion y Clywaid''''' ([[Cymraeg Canol]]: '''''Englynion y Clyweit'''''), a gyfansoddwyd tua diwedd y 12fed ganrif neu ddechrau'r 13eg, yn ôl [[Ifor Williams]]. Canu [[gwireb]]ol yw'ra geir yn y gerdd, gyda phob englyn yn dechrau gyda'r fformiwla agoriadol "A glyweist ti a gant...?" gan ychwanegu enw cymeriad o draddodiad Cymru neu un o'r seintiau. Ceir yr ateb ar ffurf dihareb draddodiadol.
 
Ceir y testunau cynharaf yn ''Llawysgrif Coleg yr Iesu 3'' (tua 1350) ac yn ''[[Llyfr Coch Talgarth]]'' (tua 1400). Ceir y testun gorau yn ''Llyfr Coch Talgarth'' ac yn y llawysgrif gynharach ceir y teitl ''Llyma e[n]glynyon y clyweit ar diarhebyon''. Mae'r testunau hyn yn deillio o destun[au] cynharach.
 
Mae'r gerdd yn cynnwys 73 o englynion gyda'r diarhebion yn cael eu priodoli i gymeriadau o'r traddodiad Cymreig neu seintiau Cymreig a thramor ac eithrio ambell un a roddir yng ngenau anifeiliaid. Mae'r dewis o gymeriadau Cymreig yn cynnwys nifer o gymeriadau o ''[[Culhwch ac Olwen]]'', sy'n dangos fod yr awdur yn gyfarwydd â'r chwedl honno. Mae'r cyfuniad o arwyr chwedlonol, hanesyddol neu led-hanesyddol a seintiau Cristnogol yn dyst i ddiddordebau hynafiaethol yr awdur, sy'n anhysbys. Mae'r gerdd yn ddrych hefyd i ddiddordeb hynafiaethol y 13eg ganrif a'r 14eg pryd cafwyd cryn dipyn o gasglu, cyfansoddi a chofnodi deunydd diharebol a gnomig gan Gymry dysgedig mewn ysbryd a gymherir gan [[Kenneth H. Jackson]] â'r meddylfryd hynafiaethol a ysbrodoloddysbrodylodd golygwyrolygwyr y ''[[Myvyrian Archaiology of Wales]]'' ar ddechrau'r 19eg ganrif.
 
Dyma enghraifft lle priodolir y ddihareb i [[Cynfarch fab Meirchion]] o'r [[Hen Ogledd]]: