Theodor W. Adorno: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 4:
Ganwyd yn [[Frankfurt am Main]] yn nhalaith [[Hessen]], i fam Gatholig o [[Corsica|Gorsica]] a thad Protestannaidd o dras [[Iddew]]ig. Yn Frankfurt fe enillodd ddoethuriaeth mewn athroniaeth o Brifysgol Johann Wolfgang Goethe. Aeth i [[Fienna]] yn 1925 i astudio dan y cyfansoddwr Alban Berg. Dychwelodd i Frankfurt yn 1927 ac ymunodd â'r Institut für Sozialforschung (IfS) yn y brifysgol. Y sefydliad hwnw a gynhyrchai [[Ysgol Frankfurt]], ac Adorno oedd un o brif feddylwyr y mudiad deallusol hwnnw.
 
Cafodd Adorno a nifer o aelodau eraill yr IfS eu gyrru allan o'r Almaen gan y [[Yr Almaen Natsïaidd|llywodraeth Natsïaidd]] yn 1934, a symudodd Adorno i Loegr i addysgu ym [[Prifysgol Rhydychen|Mhrifysgol Rhydychen]]. Ymfudodd i'r [[Unol Daleithiau]] yn 1938, ac yno fe gyd-weithiodd gyda [[Max Horkheimer]], cyfarwyddwr yr IfS, wrth ysgrifennu sawl llyfr, gan gynnwys ''Dialektik der Aufklärung'' (1947). Dychwelodd Adorno a Horkheimer i'r Almaen yn 1949, ac ailgychwynasant eu gwaith yn Frankfurt yn 1951. Bu farw yn 65 oed.
 
{{DEFAULTSORT:Adorno, Theodor W.}}