Cosi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
diagnosis
triniaeth
Llinell 26:
==Diagnosis==
Cynghorir i unigolion sydd yn dioddef o gosi difrifol, yn para am amser hir, yn ailadroddus, neu'n gysylltiedig â symptomau eraill megis [[problemau anadlu]] neu [[chwyddo]], i ymweld â [[meddyg]] i gael [[diagnosis meddygol|diagnosis]]. Gall cosi ar hyd y corff cyfan, heb unrhyw achos amlwg neu yn ystod beichiogrwydd, bod yn symptom [[cyflwr sylfaenol difrifol]].<ref name="diagnosis">{{dyf gwe |url=http://www.nhsdirect.wales.nhs.uk/Encyclopaedia/i/article/itching?locale=cy#Diagnosis |gwaith=Gwyddoniadur Iechyd |cyhoeddwr=[[GIG Cymru|Galw Iechyd Cymru]] |teitl=Cosi: Diagnosis |dyddiadcyrchiad=16 Medi |blwyddyncyrchiad=2009 }}</ref>
 
==Triniaeth==
Mae [[triniaeth feddygol|triniaeth]] y llid hwn yn dibynnu ar achos y cosi. Defnyddir [[meddyginiaeth]] a chyngor hunanofal i'w drin.
 
===Cyngor===
Cynghorir cleifion sydd yn dioddef o gosi i geisio peidio â chrafu, sydd yn llidio'r croen ymhellach gan arwain at fwy o gosi a mwy o grafu. Cynghorir i gleifion cadw eu [[ewin|hewinedd]] yn fyr i helpu wrthsefyll yr atgyrch, ac i geisio binsio'r croen ger y cosi rhwng y bawd a'r mynegfys drwy'r dillad, gan fydd hyn yn creu llai o ddifrod na chrafu uniongyrchol. Cynghorir i wisgo dillad [[cotwm]] os yn bosib, yn hytrach na deunyddiau sy'n achosi llid megis [[gwlân]] a rhai [[ffabrig synthetig|ffabrigau synthetig]], ac i wisgo [[dillad gwely]] claear, ysgafn, a llac. Gall osgoi treulio amser mewn amgylcheddau poeth a llaith hefyd helpu trin cosi.<ref name="triniaeth">{{dyf gwe |url=http://www.nhsdirect.wales.nhs.uk/Encyclopaedia/i/article/itching?locale=cy#Triniaeth |gwaith=Gwyddoniadur Iechyd |cyhoeddwr=[[GIG Cymru|Galw Iechyd Cymru]] |teitl=Cosi: Triniaeth |dyddiadcyrchiad=17 Medi |blwyddyncyrchiad=2009 }}</ref>
 
Cynghorir hefyd i gleifion gael [[cawod]]ydd neu [[baddon|fath]]iau claear neu lugoer yn hytrach na phoeth, i beidio â defnyddio [[sebon]]au, [[gel cawod|geliau cawod]], na [[diaroglydd]]ion [[persawr]]us a llidus, ac ar ôl cael bath i ddefnyddio [[eli|elïau]] sy'n cynnwys [[lleithydd]]ion i atal y croen rhag sychu. Gall ychwanegu ychydig o [[sodiwm deucarbonad]] at y dŵr bath neu drochi croen y pen neu'r traed â sodiwn deucarbonad, trochi mewn bath â dwy gwpan o [[ceirch rholiedig|geirch rholiedig]] wedi'u sicrhau mewn hosan, a defnyddio clwtyn oer neu [[hylif calamin]] lliniarol hefyd helpu i leddfu cosi.<ref name="triniaeth"/>
 
===Meddyginiaeth===
Mae triniaethau meddyginiaethol ar gyfer cosi yn cynnwys cyffuriau [[gwrth-histamin]] geneuol i reoli adweithiau alergaidd ac felly cosi, a ellir eu prynu [[dros y cownter]]; maent yn gallu helpu'r claf i gysgu ac yn torri'r cylch cosi-crafu. Gall [[hufen hydrocortison]] dros y cownter trin mannau coslyd lleoledig. Gall [[meddyg]] [[presgripsiwn|ragnodi]] meddyginiaethau penodol hefyd megis [[corticosteroid]]au argroenol, a hylifau megis [[cynhwysyn actif|cynhwysion actif]] a [[steroid]]au ar ffurf cymysgedd hylif neu [[gel]] i drin mannau llai hygyrch neu fannau [[blew]]og, yn hytrach na defnyddio hufenau gludiog.<ref name="triniaeth"/>
 
==Cyfeiriadau==