Blodwen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu |
Roedd y crynodeb blaenorol yn wallus. |
||
Llinell 12:
==Crynodeb==
Ac eithrio’r olygfa olaf, sef y tu mewn i gastell Caer, mae stori Blodwen yn digwydd yng Nghymru’r bedwaredd ganrif ar ddeg, o fewn ac o gwmpas castell Maelor yng ngogledd-ddwyrain y wlad.
ACT 1
Golyga 1: Mae’r opera yn agor ar y noson cyn priodas Elen, merch Arglwyddes Maelor, a’r milwr Cymreig Arthur, o Gastell Berwyn. Mae newydd yn cyrraedd y bydd Syr Hywel Ddu, ynghyd â’i ferch fabwysiedig, hardd, Blodwen, yn cyrraedd yn fuan. Mae Arglwyddes Maelor yn falch eu bod nhw ac eraill yn dod i’r briodas, ac mae’n gweddio am heddwch ac i Dduw gadw Elen ac Arthur yn ddiogel. Mae corws o weision yn canu’n llon wrth iddynt addurno muriau’r castell ac ystafell wely Elen gyda lilis a rhosod. Mae Iolo’r Bardd yn bendithio Elen ac Arthur ac yn datgan heddwch i Arglwyddes Maelor a’i chastell. Mae Blodwen a Hywel yn cyrraedd, gan ganu cyfarchion a dymuniadau gorau i Elen. Mae Blodwen yn galaru bod ei mam wedi marw a’i thad wedi’i golli mewn rhyfel, ond mae’n hapus i wneud ei chartref gyda Hywel yng Nghastell yr Wyddfa. Mae Arglwyddes Maelor yn canu am ddewrder Blodwen ac yn ei sicrhau bod croeso iddi aros yng Nghastell Maelor. Mae Hywel yn ei hannog i aros oherwydd ei bryder fod rhyfel yn agosáu ac yntau i ffwrdd yn ymladd. Mae Iolo’n darogan y gorchfygir grym brenin Lloegr ac y bydd “seren ddydd rhyw gyfnod gwell yn codi yn y dwyrain pell.”
Golygfa 2: Torrir ar draws priodas Elen ac Arthur gan dri milwr Plantagenet sy’n mynnu allweddi’r castell yn enw’r brenin Harri o Loegr. Mae Arglwyddes Maelor a’r corws yn eu troi i ffwrdd gyda neges herfeiddiol i’w meistr.
ACT 2
Golygfa 1: Gyda’r wawr o flaen Castell Maelor, mae helwyr yn canu wrth iddynt ymadael. Daw Iolo i mewn gan ganu am y rhagolygon erchyll sydd yn y sêr. Yna mae Hywel (mewn unawd gyfarwydd) yn ymddangos ac yn datgan ei gariad at Blodwen, sydd o’r golwg. Mae hithau’n ymddangos ac yn cyfaddef iddi fod mewn cariad gyda Hywel. Ar ôl ei boeni am beidio mynd i hela, ceir y ddeuawd enwog ‘Hywel a Blodwen’. Mae’r helwyr yn dychwelyd ond torrir ar draws eu llawenydd gan negesydd Tywysog Cymru, sy’n galw ar ddynion Maelor i amddiffyn eu gwlad ac i baratoi’n ddisymwth ar gyfer rhyfel gyda byddinoedd Harri.
Golygfa 2: Y tu mewn i Gastell Maelor, mae Hywel ac Arthur yn canu deuawd fywiog wrth iddynt baratoi i fynd i’r gad. Mae Elen a Blodwen yn pinio rhuban gwyn ar fron eu cariadon wrth ganu’n iach â nhw.
Golygfa 3: Yn ystafell Arglwyddes Maelor, mae negesydd yn disgrifio erchylltra’r frwydr a dewrder eithriadol Hywel ac Arthur. Gelwir ar Iolo i fynegi canlyniad y frwydr ac mae yntau’n ateb bod trychineb ar y gweill, ac y dylai hi gysuro a chefnogi Elen ac Blodwen.
ACT 3
Golygfa 1: Mae Arthur wedi dychwelyd i Gastell Maelor, ond mae wedi ei anafu’n angheuol. Mae’n ffarwelio ag Elen ac mae’r olygfa’n cloi gydag ymdeithgan angladdol corawl.
Golygfa 2: Daw negesydd i ddweud wrth Arglwyddes Maelor fod byddin Cymru wedi colli’r dydd a bod nifer o arwyr wedi’u lladd. Roedd Hywel ymysg y dewraf ar faes y gad, ond nid yw’r negesydd yn gwybod a yw’n fyw. Mae Blodwen yn galw ar “awel y nefoedd” i ddod â newydd, gan ganu am golli ei rhieni, ei brawd ac efallai Hywel hefyd. Yna daw Iolo i gyhoeddi bod Hywel yn fyw ond wedi’i garcharu yng Nghastell Caer yn disgwyl ei ddienyddiad.
Golygfa 3: Mae’r olygfa olaf yn agor yng ngharchar Castell Caer gyda’r carcharorion yn canu cytgan herfeiddiol. Mae Arglwyddes Maelor, Blodwen a Iolo wedi cael caniatâd i ymweld â Hywel yn ei gell am y tro olaf. Mae yntau’n canu’i ffarwél i Blodwen, unawd sy’n dal yn bolobgaidd ymysg tenoriaid. Clywir y dorf y tu allan i furiau’r castell yn dathlu buddugoliaeth Lloegr. Ymddengys dieithryn wrth ddrws y gell ac mae Iolo yn mynnu ei fod yn ei ddatgelu ei hun. Rhys Gwyn yw’r dieithryn, tad Blodwen, yr oedd hi’n meddwl iddo gael ei ladd ugain mlynedd ynghynt. Mae’r tad a’i ferch yn gorfoleddu wrth i Rhys gyhoeddi’r newydd da: mae’r brenin wedi marw ac, o ganlyniad, fe’i rhyddhawyd er mwyn dod â gorchymyn gan y llys i ryddhau’r holl garcharorion. Daw’r opera i ben gyda chytgan orfoleddus, lle mae Parry’n gweu i’w gerddoriaeth ‘Ymdeithgan Gwŷr Harlech’.
{{eginyn Cerddoriaeth Cymru}}
|