Michael Collins: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Gwybodlen wicidata
Dim crynodeb golygu
Llinell 21:
 
Erbyn 1922 roedd y llywodraeth Brydeinig yn barod i drafod telerau heddwch, ac aeth Collins gyda nifer o arweinwyr eraill i Lundain i negodi gyda llywodraeth [[David Lloyd George]]. Cynigiwyd iddynt weriniaeth annibynnol, ar yr amod fod chwech sir yng ngogledd yr ynys yn parhau dan lywodraeth Brydeinig fel [[Gogledd Iwerddon]]. Cytunodd Collins a'r lleill, er ei fod yn gwybod y byddai hyn yn annerbyniol gan rai o'r rhai oedd wedi bod yn cyd-ymladd ag ef. Aeth yn [[Rhyfel Cartref Iwerddon|rhyfel cartref]] yn erbyn y rhai oedd yn gwrthod derbyn y cytundeb, yn cynnwys [[Éamon de Valera]]. Gerllaw Corc ar 22 Awst,1922 roedd Collins yn teithio mewn modur pan ymosodwyd arno gan fintai oedd yn gwrthwynebu'r cytundeb. Gallasant fod wedi gyrru ymlaen allan o berygl, ond mynnodd Collins aros a chymeryd rhan yn yr ymladd ei hun. Tarawyd ef gan fwled a'i ladd yn y fan.
 
==Cofadail==
Codwyd [[Cofadail Michael Collins ac Arthur Griffiths, Tŷ Leinster|Cofadail]] mewn gwerthfawrogiad i waith Collins ac [[Arthur Griffith]] ar Lawnt [[Tŷ Leinster]] yn 1923. Symudwyd hi yn 1939.
 
==Dolenni allanol==