Nomad: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu
Tagiau: Golygiad cod 2017
lluniau
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 6:
 
== Bugeiliaid ==
[[Delwedd:Nordic Sami people Lavvu 1900-1920.jpg|bawd|chwith|Sami, gyda'u cŵn a'u pebyll (tua 1900–20).]]
Mae nomadiad bugeiliol yn cadw anifeiliaid, megis defaid a gwartheg, am eu [[cig]] a'u [[llaeth]], eu crwyn a'u blew. Maent yn crwydro ar laswelltiroedd sych, gan symud o un borfa i'r llall, ac yn byw gan amlaf mewn [[pabell|pebyll]]. Ni ellir tyfu [[cnwd|cnydau]] yn y fath dir. Mae rhai o nomadiaid yr anial yn cadw [[camel]]od, a'r [[Sami]] yn [[y Lapdir]] yn symud ar yr eira gyda'u [[carw Llychlyn|ceirw]].
 
Llinell 17 ⟶ 18:
=== Roma ===
{{prif|Roma}}
[[Delwedd:Romani people Lviv Ukraine.jpg|bawd|Roma yn Lviv, [[yr Wcráin]].]]
Pobl nomadaidd sy'n tarddu o'r [[India]] yw'r Roma neu'r Romani. Adnabyddir yn draddodiadol gan yr enw [[Sipsiwn]], ond term a roddir arnynt gan eraill yw hwnnw a gall hefyd cyfeirio at grwpiau nomadaidd eraill. Mae'n bosib bod y Roma yn perthyn i'r Dom neu i'r cast Indiaidd Domba. Datblygodd yr iaith [[Romani (iaith)|Romani]] rhywbryd ar ôl 500 CC yng nghanolbarth India. Dechreuodd y Roma fudo i'r gogledd tuag at [[Cashmir|Gashmir]] cyn 500 OC, ond arhosodd yn [[is-gyfandir India]] tan tua'r 9g. Mudodd yna i'r gorllewin gan ymsefydlu yng ngorllewin [[Anatolia]] ac yn hwyrach ar draws [[Ewrop]], ac erbyn heddiw ar draws y byd. Bu'r Roma yn dioddef rhagfarn ac erledigaeth trwy gydol eu hoes, gan gynnwys [[caethwasiaeth]] yn Nwyrain Ewrop, pogromau, ac [[hil-laddiad]] yn [[yr Holocost]].
 
Llinell 25 ⟶ 27:
Pobl Arabaidd nomadaidd sydd yn byw yn niffeithwch a lled-anialdiroedd [[Gogledd Affrica]] a'r [[Dwyrain Canol]] yw'r [[Bedowiniaid]]. Cyrhaeddant Gogledd Affrica yn sgil gorchfygiad yr ardal gan yr Arabiaid yn yr 8g. Cedwir defaid, geifr, camelod, ac weithiau gwartheg ganddynt. Mae'n bosib iddynt plannu cnydau ar hyd y llwybrau mudo a ddefnyddir amlaf, a'u cynaeafu ar y daith yn ôl. Maent yn masnachu â chymunedau sefydlog.
 
[[Delwedd:Africa. French West Africa. For generations the Niger River country has been populated only by nomads who wander from... - NARA - 541643.jpg|bawd|Dyn Twareg a'i fab yn [[Tombouctou]] (tua 1948–55).]]
Grŵp ethnig sy'n byw yng ngorllewin y [[Sahara]] yw'r [[Twareg]], sydd yn draddodiado yn nomadiaid sydd yn byw trwy gadw anifeiliaid. Bugeilwyr yn nwyrain y Sahara yw'r [[Bejaid]] sy'n byw ar laeth, menyn a chig a gynhyrchir gan eu gwartheg a'u camelod.