Afon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Cell Danwydd (sgwrs | cyfraniadau)
{{Nodyn:Priodoliad Twm Elias|: Gwyddoniadur Cymru|Gwasg y Brifysgol}}
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
Golygu cyffredinol (manion) using AWB
Llinell 3:
Llifiad o [[dŵr|ddŵr]] o dir uwch i'r [[môr]] neu i [[Llyn|lyn]] neu fan is arall, yw '''afon'''. Mae'r rhan fwyaf o afonydd yn llifo o'u tarddle, gan amlaf yn y bryniau a'r [[mynydd]]oedd, i lawr drwy'r cymoedd a'r dyffrynoedd hyd nes eu bod yn cyrraedd y môr. Mae sianel yr afon yn lledu fel y mae mwy o ddŵr yn ymuno â'r afon o'r nentydd a'r afonydd o'r mynyddoedd neu dir uwch sydd ar lwybr yr afon ar ei ffordd i'r môr. Eithriad i'r drefn arferol yw afonydd yn ardaloedd [[anialwch|anial]], yn y [[Sahara]] er enghraifft, sy byth yn cyrraedd na môr na llyn ond yn cael eu llyncu yn y diffeithwch neu'n dyfrhau [[gwerddon]].
 
Bu afonydd yn bwysig i fywydau a chredoau pobl ar hyd a lled y byd ers cychwyn gwareiddiad. A pha ryfedd o ystyried yr hyn sydd gan afon i'w gynnig – yn ddŵr bywiol, pysgod a'r gwiail a hesg defnyddiol ar ei glannau? Yn aberoedd neu diroedd gorlif afonydd mawrion y byd, e.e. Tigris, Ewffrates, Nîl, Ganges, Indws a Hwang Ho ("Afon Felen" yn [[Tsieina]]) y datblygodd y gwareiddiadau amaethyddol mawr cyntaf. Yma, cysylltid llif tymhorol yr afonydd mawrion â bywyd a ffrwythlondeb y cnydau. Dyma rodd duwiau'r afon a gallasai'r wobr fod yn fawr o drin y tir yn amserol ac yn briodol.
 
<gallery>
Llinell 13:
 
==Mytholeg a chrefydd==
Cysylltid llif tymhorol afonydd mawrion y byd â bywyd a ffrwythlondeb y cnydau. Dyma rodd duwiau'r afon a gallasai'r wobr fod yn fawr o drin y tir yn amserol ac yn briodol.
 
Dywed Marie Trevelyan yn ei ''Folk-lore and Folk Stories of Wales'' (1909) am anghenfilod afonydd Cymru, gan nodi bod un o'r rhain yn aber [[afon Tâf]] yng [[Caerdydd|Nghaerdydd]]. Dywed y byddai trobwll di-waelod yno, oedd yn un o saith rhyfeddod Morgannwg, lle y llechai sarff anferth. Doedd dim gobaith i neb a dynnid i'r trobwll oherwydd cawsai un ai ei lyncu gan y sarff a diflannu am byth, neu, os oedd o gymeriad da cawsai ei gorff ei olchi i'r lan am nad oedd yr hen sarff yn hoff o gig y cyfiawn. Ceid stori debyg am y trobwll ym Mhontypridd tra mewn ardaloedd eraill fe gymer yr anghenfil ffurfiau eraill, e.e. yr Afanc yn [[afon Lledr]], [[Betws y Coed]], y Ceffyl Dŵr ac Anghenfil Mawddach.
 
Yn Ewrop a Phrydain ceir tystiolaeth helaeth o aberthu i afonydd ar ffurf yr holl waith metel cain a daflwyd i ddyfroedd sawl afon yn yr [[Oes Efydd|Oesoedd Efydd]] a [[Yr Oes Haearn|Haearn]]. Mewn gwirionedd mae'r mwyafrif o drysorau [[Y Celtiaid|Celtaidd]] mwyaf gwerthfawr yr Oes Haearn ym Mhrydain ac Iwerddon wedi eu darganfod mewn safleoeoedd fyddai'n welyau afonydd yn wreiddiol, e.e. tarian Battersea a helmed Waterloo yn [[afon Tafwys]].
Llinell 25:
Yn aml ystyrid tarddiad afon yn sanctaidd – yn enwedig os codai o ffynnon, e.e. Sequana oedd duwies y ffynnon o'r hon y ffrydiai afon Seine ym [[bwrgwyn|Mwrgwyn]] (''Burgundy''). Yno parhaodd adeiladwaith helaeth yn dyddio o'r cyfnodau Celtaidd a Rhufeinig a chanfyddwyd llawer o fodelau pren a aberthwyd iddi yn cynrychioli anifeiliaid a phobl y dymunid i'r dduwies eu hiachau.
 
Ystyrid llif yr afon yn gyfrwng i olchi ymaith bechodau a dyma, efalli'r sail i fedyddio pobl mewn afon. Mae'r Ganges yn aruthrol bwysig i'r [[Hindw|Hindwiaid]]iaid i gario llwch y meirwon i fyd gwell. Ymddengys mai syniad tebyg oedd y tu ôl i'r arfer o grogi pen dafad a ddioddefai o'r 'bendro' ar gangen uwchben yr afon yng [[Cwm Pennant|Nghwm Pennant]] rai blynyddoedd yn ôl – er mwyn i'r afon waredu'r afiechyd o'r cwm a'i gario i rywle arall!
 
Gall afonydd fod yn ffiniau pwysig yn ogystal, e.e. yn ddaearyddol rhwng dau lwyth; rhwng dwy elfen sef aer a dŵr, a rhwng dau fyd sef y byd daearol ac [[Annwfn]] – yr arall-fyd.
 
Yn naturiol, os oedd afon yn ffin diriogaethol, yna roedd y mannau croesi yn llefydd pwysig yn ogystal. Yn y [[Mabinogi]], mewn rhyd yn afon Cynfal y lladdodd [[Gronw Pebr]] [[Lleu Llaw Gyffes]], ac yno hefyd yr atgyfododd Lleu a lladd Gronw - yn yr un lle. Nepell oddi yno y bu'r frwydr, yn y Felenrhyd, pan laddwyd [[Pwyll Pendefig Dyfed]] gan Gwydion y lleidr moch. Yn ''[[Llyfr Du Caerfyrddin]]'' a'r ''Triawdau'' sonnir am [[Cynon]], oedd yn un o'r fintai yrrwyd i ddial am ladd [[Elidir Mwynfawr]] o'r [[Hen Ogledd ]] gan wŷr Arfon ger [[afon Rheon]]. Chafodd Cynon fawr o hwyl arni chwaith ac fe'i lladdwyd ac fe'i claddwyd yntau ger "Rheon Ryd".
 
Ar bont y pentre, adeg Ffair Llanllyfni, a llawer pont arall mewn sawl pentre arall, y casglai'r gweision adeg Ffeiriau Glanmai a Glangaea i gyflogi i ffermydd y fro. Ac ar ambell bont hynafol, e.e. Pont Dol-y-moch, ym Mhlwy Ffestiniog, fe welir ôl troed wedi ei gerfio ar un o lechi canllaw'r bont. Arferai rhywun a oedd ar fin ymfudo wneud hyn, er mwyn sicrhau lwc dda i'w gamre ar y daith.
Llinell 40:
 
{{eginyn daearyddiaeth}}
{{Nodyn:Priodoliad Twm Elias|: Gwyddoniadur Cymru|Gwasg y Brifysgol}}
 
{{Wiciadur|{{lc:{{PAGENAME}}}}}}