Éamon de Valera: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Gwybodlen wicidata
Dim crynodeb golygu
Llinell 6:
}}
'''Éamon de Valera''' (ganwyd '''Edward George de Valera''', enw [[Gwyddeleg]] '''Éamonn de Bhailéara''') ([[14 Hydref]] [[1882]] - [[29 Awst]] [[1975]]), oedd un o arweinyddion y mudiad dros annibyniaeth Iwerddon oddi wrth Brydain ar ddechrau'r ugainfed ganrif. Cymerodd ran yng [[Gwrthryfel y Pasg|Ngwrthryfel y Pasg]] yn [[1916]], a bu bron iddo gael ei ddienyddio gydag arweinwyr eraill y gwrthryfel. Yn ddiweddarch daeth yn arweinydd yr wrthblaid Weriniaethol yn ystod y [[Rhyfel Cartref Iwerddon]] 1922-23. Yn ddiweddarach, daeth yn Brif Weinidog dair gwaith (y tro cyntaf fel ail Arlywydd y Cyngor Gweithredol, ac fel y [[Taoiseach]] cyntaf (teitl y Prif Weinidog yn ôl Cyfansoddiad 1936)). Gorffennodd ei yrfa wleidyddol fel trydydd [[Arlywydd Iwerddon|Arlywydd]] [[Gweriniaeth Iwerddon]] (Gwyddeleg: ''Uachtarán na hÉireann''), rhwng [[25 Mehefin]] [[1959]] a [[24 Mehefin]] [[1973]].
 
==Cyfansoddiad Iwerddon==
De Valera oedd prif awdur a symbylydd ysgrifennu [[Cyfansoddiad Iwerddon]] ar ddiwedd yr 1930au. Rhoddodd y Cyfansoddiad statws a threfn i [[Gwladwriaeth Rydd Iwerddon|Wladwriaeth Rydd Iwerddon]]. Er bod pwyslais fawr ar ddysgeidiaeth grefyddol [[Catholig]] mae'n ymwerthod â gwneud Catholigiaeth yn grefydd swyddogol y wladwriaeth newydd. Bu sawl newid i'r cyfansoddiad dros y degawdau, ond mae'n dal i fod, yn ei hanfod, yn arwydd o lwyddiant gwaddol de Valera.
 
==Gweler hefyd==