Mudiadau cymdeithasol LHDT: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 20:
===Cyn 1860===
Yn [[Ewrop]] yn ystod y [[18fed ganrif|18fed]] a'r [[19eg ganrif]], yn gyffredinol ystyriwyd ymddygiad rhywiol cyfunrywiol a thrawswisgo yn annerbyniol, ac roeddent yn droseddau difrifol o dan y deddfau sodomiaeth a gwrthwariant. Fodd bynnag, roedd yna eithriadau. Yn ystod y [[1600au]] er enghraifft, roedd trawswisgo'n gyffredin iawn mewn dramâu fel a welir yng nghynnwys mewn nifer o ddramâu [[William Shakespeare]] (a chan actorion yn y perfformiad go iawn, am fod y rôlau benywaidd yn y [[Theatr Elisabethaidd]] bob amser yn cael eu perfformio gan fechgyn, gan amlaf yn fechgyn blaenaeddfed). Parchai nifer o ddiwylliannau Americanaidd Cyntefig unigolion a oedd, yng nghyd-destun ein byd modern, yn gyfunrywiol neu'n ddeurywiol, gan ddatgan eu bod yn ymgorffori nodweddion dynion a menywod. Roedd unrhyw gymuned neu fywyd cymdeithasol hoyw yn guddiedig. Ysgrifennodd [[Thomas Cannon]] yr hyn sydd efallai yn un o'r amddifyniadau cyntaf o gyfunrywioldeb yn "English, Ancient and Modern Pederasty Investigated and Exemplify'd" (1749). Ysgrifennodd y diwygiwr cymdeithasol [[Jeremy Bentham]] y ddadl gyntaf o blaid diwygio'r gyraith cyfunrywiol yn Lloegr tua 1785, mewn cyfnod pan y gallwyd crogi person am sodomiaeth. Serch hynny, ofnai ddial ac ni chyhoeddwyd ei draethawd rymus tan 1978. Ym 1791 Ffrainc oedd y genedl gyntaf i ddad-droseddu cyfunrywioldeb, diolch i raddau i [[Jean Jacques Régis de Cambacérès]], dyn hoyw a oedd yn un o awduron y [[Côd Napoleanaidd]].
 
Ym 1833, ysgrifennodd bardd Saesneg amddifyniad barddonol o Gapten [[Nicholas Nicholls]], a ddedfrydwyd i farwolaeth yn Llundain am sodomiaeth:
<blockquote>
Whence spring these inclinations, rank and strong?
And harming no one, wherefore call them wrong?</blockquote>
Tair blynedd yn ddiweddarach yn y [[Swistir]], cyhoeddodd [[Heinrich Hoessli]] y gyfrol gyntaf o ''Eros: Die Männerliebe der Griechen'' ("Eros: Cariad-gwrywaidd y Groegiaid"), amddiffyniad arall o gariad cyfunrywiol.
 
Yn groes i'r gred gyffredin, ni wnaed cyfunrywioldeb yn anghyfreithlon yng Ngwlad Pwyl a oedd yn draddodadiol Gatholig a cheidwadol. Yn ystod y 18fed ganrif, gwelwyd agweddau ryddfrydol, ymlaciedig at rywioldeb, gyda ffigurau cyhoeddus ynghlwm a gweithgarwch cyfunrywiol neu drawswisgo. Tynnwyd sylw'r cyhoedd at ddigwyddiadau fel hyn, ond ni ddaethpwyd ag achos troseddol yn erbyn unrhyw un. Dim ond pan rannwyd tiriogaethau Gwlad Pwyl ac y daethant o dan reolaeth yr [[Ymerodraeth Rwsaidd]], yr [[Ymerodraeth Awstri-Hwngaraidd]] a [[Teyrnas Prwsia|Theyrnas Prwsia]] y cyflwynwyd deddfau a wnaeth gweithgarwch cyfunrywiol yn anghyfreithlon. Serch hynny, parhaodd nifer o ffigurau blaenllaw i fod mewn perthynas cyfunrywiol, megis [[Narcyza Żmichowska]] (1819-1876), ysgrifenwraig a sylfaenydd y mudiad ffeministaidd Pwylaidd, a ddefnyddiodd ei phrofiadau ei hun yn ei hysgrifennu.
 
==Cyfeiriadau==