T. H. Parry-Williams: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Jac y jwc (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Bardd, ysgrifwr, ysgolhaig ac athro prifysgol oedd '''Thomas Herbert Parry-Williams''' ([[21 Medi]] [[1887]] - [[3 Mawrth]] [[1975]]). Mae'n cael ei adnabod yn aml fel '''T.H. Parry-Williams''' neu '''T.H.'''. Ef yw awdur y gerdd enwog 'Hon'.
 
==Gyrfa==
Ganed T.H. Parry-Williams yn [[Rhyd-ddu]], [[Arfon]], lle'r oedd ei dad yn ysgolfeistr; yn wir ysgrifenoddysgrifennodd [[soned]] enwog i 'Dŷ'r Ysgol'. Roedd yn gefnder i'r bardd [[Robert Williams Parry|R. Williams Parry]]. Graddiodd mewn [[Cymraeg]] yng [[Prifysgol Aberystwyth|Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth]] ynym 1908, ac yna cymerodd radd arall, mewn [[Lladin]], y flwyddyn wedyn. Aeth i [[Coleg Yryr Iesu, Rhydychen|Goleg Yryr Iesu, Rhydychen]] ac yna i Brifysgolion [[Fribourg (dinas)|Freiburg]] a [[Paris|Pharis]] i astudio ymhellach. Penodwyd ef i Gadair y Gymraeg yn Aberystwyth ynym 1920, ac ar ôl ymddeol yn 1952 parhaodd i fyw yn y dref hyd ei farwolaeth ynym 1975.
 
==Gwaith llenyddol==
Daeth i sylw cenedlaethol pan enillodd [[Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol|y Gadair]] ''a'r'' [[Coron yr Eisteddfod Genedlaethol|Goron]] yn yr [[Eisteddfod Genedlaethol]] ynym 1912. Roedd hyn yn gamp anghyffredin iawn, ond ynym 1915 gwnaeth yr un peth eto. Cyhoeddodd nifer o gasgliadau o gerddi ac o ysgrifau, yn ogystal acag astudiaethau academaidd.
 
Roedd yr [[ysgrif]], ffurf gymharol newydd yn y Gymraeg, yn bwysig ganddo ac ymhlith ei gasgliadau ceir ''Ysgrifau'' (1928), ''Olion'' (1935), ''Lloffion'' (1942), ''O'r Pedwar Gwynt'' (1944), ''Myfyrdodau'' (1957) a ''Pensynnu'' (1966). Casglwyd y cyfan o'i ysgrifau at ei gilydd ym 1984.
Llinell 11:
Cyhoeddodd y cyfrolau canlynol: ''Cerddi'' (1931), ''Olion'' (1935), ''Synfyfyrion'' (1937), ''Ugain o Gerddi'' (1949) a ''Myfyrdodau'' (1957). Cyhoeddwyd ''Detholiad o Gerddi'' ym 1972 a ''Casgliad o Gerddi'' ym 1987.
 
Ymwneud â bywyd mae ei gerddi fynychaf: ymae diffyg ystyr syddbywyd i'w weld fel thema drwyddynt. Ef yw "brenin y soned Gymraeg"; dyma enghraifft allan o'r gerdd 'Llyn y Gadair':
 
:Ni wêl y teithiwr talog mono bron
Llinell 19:
:Pysgotwr unig, sydd yn chwipio'r dŵr
:A rhwyfo plwc yn awr ac yn y man,
:Fel adyn ar gyfeilorn, neu fel gwrgŵr
:Ar ddyfroedd hunlle'n methu cyrraedd glan...
 
gan ddiweddu gyda'r cwpled canlynol sy'n dweud nad oedoedd dim yno:
 
:Dim byd ond mawnog a'i boncyffion brau,
Llinell 43:
 
== Ffynonellau ==
*Meic Stephens (gol.) (1986) ''Cydymaith i lenyddiaeth Cymru'' (Gwasg Prifysgol Cymru)