Bryncir: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
→‎top: Cyfnewid Gwybodlen am un o WD using AWB
Heulfryn (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 14:
Gellir gweld nifer o hynafiaethau yn yr ardal, yn cynnwys [[Pen Llystyn|caer Rufeinig ym Mhen Llystyn]], lle mae olion y muriau i'w gweld er bod y chwarel raean yno wedi difetha'r tu mewn. Ym mur yr ardd yn ffermdy Llystyn Gwyn, ychydig i'r gogledd o'r pentref mae carreg o'r [[6g]] gydag arysgrif mewn [[Lladin]] ac [[Ogam]]. Yn y Lladin mae'n darllen ICORI(X) FILIUS / POTENT / INI (Icorix, mab Potentinus). Mae cerrig dwyieithog, Lladin ac Ogam, yn gyffredin yn ne-orllewin [[Cymru]], ond dyma'r unig un yn y gogledd-orllewin.
 
Mae Bryncir yn bentref prysur, gyda chanolfan arddio, tafarnau a siopau, ac yn enwedig y farchnad anifeiliad sy'n denu ffermwyr o gryn bellter. Er gwaethaf yr enw, mae Ffatri Wlân Bryncir gryn bellter i'r de-ddwyrain, gerllaw [[Golan, Gwynedd|Golan]]. Daw enw'r pentref o blasty Bryncir, tua dwy filltir i'r de-ddwyrain wrth geg [[Cwm Pennant]]. Pan adeiladwyd y rheilffordd, mynnodd Mr Huddart, perchennog ystâd Bryncir ar y pryd, y byddai gorsaf yn cael ei chodi mor agos ag oedd yn bosibl i'w blasty.
 
Cafwyd damwain ddrwg ar y rheilffordd ger [[Gorsaf reilffordd Bryncir]] cyn iddi agor yn swyddogol ym 1866.
 
Mae llwybr Cenedlaethol [[Lôn Las Cymru]] yn rhedeg drwy'r pentre, ac yma dechreuir adran [[Lôn Eifion]], ar lwybr y rheilffordd Caernarfon-Afonwen.
 
==Enwogion==
Magwyd y cyflwynydd teledu a radio [[Gerallt Pennant]] (g. 1960, Bangor) yn Nerwyn Fechan ym Mryncir.
 
==Llyfryddiaeth==