Peter Bailey Williams: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Luke~cywiki (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 3:
Cafodd ei addysg ym [[Prifysgol Rhydychen|Mhrifysgol Rhydychen]]. Fe'i penodwyd yn berson [[Llanrug]], ger [[Caernarfon]]. Roedd yn gyfaill i'r bardd [[Dafydd Ddu Eryri]] a chododd gofgolofn iddo ym mynwent eglwys y plwyf ar ei farwolaeth yn [[1822]]. Gwasnaethai yn ogystal ym mhlwyf [[Llanberis]].
 
Roedd gan Peter Bailey Williams ddiddordeb mawr yn hynafiaethau Cymru a chyfrannodd nifer o erthyglau ar y pwnc, yn Gymraeg a Saesneg, i gylchgronau'r dydd fel ''[[Y Geirgrawn]]'', ''[[The Cambro-Briton]]'' a'r ''[[Cambrian Quarterly]]''. Cyhoeddodd arweinlyfr Saesneg i'r hen [[Sir Gaernarfon]] yn [[1821]] a ddaeth yn boblogaidd iawn ac sy'n llawn o fanylion diddorol gan awdur a garai'r fro a'i hanes.
 
Fel cyfieithydd cyhoeddodd gyfieithiadau o ddau o lyfrau [[Richard Baxter]] dan y teitlau ''Tragwyddol Orffwysfa'r Saint'' ([[1825]]) a ''Galwad ar yr Annychweledig'' ([[1825]]).