Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 33:
==Amdanaf i==
 
Fel mae'r enw'n awgrymu, '''Rhodri''' dw i. Dechreuais i olygu am y tro cyntaf ar [[1 Mai]], [[2008]] a dw i wedi bod yma byth ers hynny. Dw i'n gweithio llawn amser ac felly dim ond yn y nos ac ar benwythnosau dw i'n gallu golygu gan amlaf. Does 'na ddim math neu gategori arbennig o erthyglau dw i'n canolbwyntio arnynt - digon o amrywiaeth er mwyn cadw'n hunan allan o ddrygioni. Dw i hefyd yn cyfrannu i brosiect Wikiquote hefyd [http://cy.wikiquote.org] yn fy amser sbar.
 
Hefyd, hoffwn i weld llawer mwy o Gymry Cymraeg yn cyfrannu at y Wici - ar hyn o bryd mae nifer o Gymry di-Gymraeg yn cyfrannu (ac yn gwneud gwaith gwych), ond mae angen mwy o bobl i greu ac ehangu ar erthyglau sydd yma yn barod. Os nad ydych yn siwr beth i wneud, gadewch neges ar dudalen sgwrs unrhyw ddefnyddiwr / weinyddwr ac fe wnawn ein gorau i'ch helpu.