Breuddwyd Macsen Wledig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 12fed ganrif12g using AWB
Dim crynodeb golygu
Llinell 12:
 
==Cefndir==
Credir gan rai ysgolheigion bod yr Elen wreiddiol yn cynrychioli [[sofraniaeth]] [[Ynys Brydain]] a'i bod hefyd yn [[duwies|dduwies]] [[Celtiaid|Geltaidd]] yn wreiddiol. Cymysga'r chwedl ei hun hanes dwy ferch wahanol, sef [[Elen Luyddog]] ac Elen ferch Eudaf. Credir mai mam yr ymerawdwr [[Custennin Fawr]] (306-337) yw sail cymeriad Elen Luyddog. Diau bod elfennau o hanes [[Elen o GaerdroiaGaerdroea]] wedi lliwio dychymyg y [[cyfarwydd]] (chwedleuwr) o Gymro hefyd.
 
Roedd [[Macsen Wledig]] (Magnus Maximus) yn filwr Rhufeinig o [[Sbaen]] a ddaeth yn ymerawdwr Rhufain ar ôl i'w filwyr ei hun ei gyhoeddi yn ymerawdwr ym Mhrydain yn y flwyddyn [[383]]. Teyrnasodd am bum mlynedd yn Rhufain cyn gael ei ladd gan [[Theodosius]]. Ceir peth o'i hanes gan [[Gildas]] a [[Nennius]] gyda'r pwyslais ar sut yr amddifadodd yr ynys o filwyr. Ychwanega Nennius y traddodiad am filwyr Cymreig Macsen yn ymsefydlu yn [[Llydaw]]. Yn yr Oesoedd Canol daeth rhai o deuluoedd brenhinol Cymru i uniaethu â Macsen a hawlio bod yn ddisgynyddion iddo ac Elen (ac felly'n etifeddu awdurdod y Rhufain Gristnogol a'r hawl i reoli Ynys Brydain, mewn cyferbyniaeth â'r [[Eingl-Sacsoniaid]] "paganaidd").