Ochr 1: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dafyddt (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
manion ieithyddol |
||
Llinell 26:
Yn ogystal â'r rhaglenni arferol, mae sawl rhaglen arbennig wedi’i darlledu gan gynnwys taith y band ifanc poblogaidd, Swnami, yng ngŵyl [[:en:Eurosonic Noorderslag|Eurosonic]] yn Groningen, Yr Iseldiroedd. Yma, roedd modd gweld taith y bechgyn a’r perfformiad byw. Hefyd, darlledwyd rhaglen arbennig am y band pop dychmygol o’r 70au, Saron - un o brosiectau’r label [[Klep Dim Trep]]. Penderfynodd Ochr 1 wneud rhaglen hanner awr, fel ‘rhaglen goll o’r archif’, o’r enw Cil y Drws o 1974. Roedd y rhaglen yn dilyn hanes y grwp yn eu dyddiau cynnar, ac yna yn cael cip olwg ar yr hyn roeddent yn recordio yn y stiwdio. Yn ogystal â hynny, roedd y band yn perfformio a sgwrsio gyda'r cyflwynydd Englyn Williams yn y stiwdio. Roedd y rhaglen 'gomedi cerddorol' wedi ei ffilmio yn yr un steil â rhaglenni pop Cymraeg y 70au megis Disg a Dawn, Twndish ac ati.
Rhaglen arbennig arall oedd ''Ochr 1: Aron Elias''. Roedd Aron Elias o Borthmadog yn brif leisydd i un o grwpiau Hip-Hop mwyaf dylanwadol Cymru, [[Pep Le Pew]]. Erbyn hyn mae'n byw mewn ogof ar ochr mynyddoedd Sacromonte, ger Granada, a hynny heb ddŵr ‘na thrydan. Mae'n treulio ei ddyddiau yn bysgio am ddigon o arian i'w gynnal am y dydd, a hynny ymysg rhai o gerddorion fflamenco mwyaf medrus y byd. Gyda
Mae Ochr 1 yn hynod o gynhyrchiol mewn amrywiaeth o wyliau Cymraeg. Ym mis Chwefror, cynhelir noson Gwobrau’r [[Y Selar|Selar]] sy’n gwobrwyo bandiau ac unigolion y sîn roc Gymraeg. Yn yr wythnosau cyn y gwobrau, mae Ochr 1 yn cynhyrchu a rhyddhau fideos ar YouTube yn datgelu’r rhestrau byrion ac ar y noson ei hun, mae’r rhaglen yn cyfweld â’r enillwyr ac yn cofnodi’r noson fel bod modd ail-fyw’r cyffro i’r rhai oedd yno, neu
==Cyfeiriadau==
|