Gweriniaeth Pobl Tsieina: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 59:
}}
[[Delwedd:Ch-map cropped.jpg|bawd|200px|Map o Weriniaeth Pobl China]]
Mae '''Gweriniaeth Pobl Tsieina''' ('''GPT''') neu '''Tsieina''' (hefyd '''Tseina''' a '''China''') yn cynnwys y rhan fwyaf o'r ardal hanesyddol a daearyddol a elwir yn [[Tsieina]]. Ers sefydlu'r weriniaeth yn [[1949]] mae [[Plaid Gomiwnyddol China]] (PGT) wedi arwain y wlad. GPT yw gwlad fwyaf poblog y byd, gyda [[poblogaeth|phoblogaeth]] o fwy na 1,300,000,000. Hi yw'r wlad fwyaf o ran maint yn [[Dwyrain Asia|Nwyrain Asia]] a'r bedwaredd fwyaf yn y byd, ar ôl [[Rwsia]], [[Canada]], a'r [[Unol Daleithiau]]. Mae GPT yn ffinio â 14 gwlad, sef [[Affganistan]], [[Bhwtan]], [[Myanmar]], [[India]], [[Casachstan]], [[Cirgistan]], [[Laos]], [[Mongolia]], [[Nepal]], [[Gogledd Corea]], [[Pacistan]], [[Rwsia]], [[Tajicistan]] a [[Fietnam]]. [[Beijing]] yw [[prifddinas]] y wlad.
 
== Daearyddiaeth ==
Llinell 88:
Pan yngenir sillaf bydd ei hystyr yn newid yn ôl yr oslef neu don y defnyddir i'w ynganu.
 
Defnyddir lluniau bychain i ysgrifennu'r iaith. Ffurfir y lluniau hyn o elfennau (ceir o gwmpas dau gant ohonynt) a thipyn o gamp ydyw defnyddio geiriadur Tsieineaidd. Er enghraifft, 女 yw'r llun am ddynes (yn wreiddiol llun o ddynes yn eistedd ar ei chwrcwd).
 
=== Diwylliant ===
Gellir dadlau mai'r diwylliant Tsieineaidd yw'r mwyaf hirhoedlog a fu erioed. Unwyd yr ymherodr cyntaf Qin (''Qinshi Huangdi'', 秦始皇第) nifer o wledydd bychain i ffurfio un wlad fawr ac y mae'n debyg mai i'w gofio ef y defnyddir y gair Tsieina.
nifer o wledydd bychain i ffurfio un wlad fawr ac y mae'n debyg mai i'w gofio ef y defnyddir y gair Tsieina.
 
Yn ystod rhyw ugain canrif caed hanes o linach ymherodrol yn ffynnu, llygru ac yna cael ei gael ei ddisodli, gan amlaf wrth i'r werin godi ac ymryfela. Parhaodd hyn tan 1949 a sefydliad GPT.
 
Gellid dadlau mai uned sylfaenol cymdeithas y llwyth Han (hynny yw, prif lwyth y Tsieinaid) yw'r teulu. Daw llysenw o flaen yr enw personol ac erstalwm byddai'r holl deulu yn cael ei gosbi pe troseddai un aelod. Nid yw'r meddylfryd hwn wedi llwyr ddiflannu.
 
Cyn y Chun Jie (春节), Gŵyl y Gwanwyn, sydd yn newid yn ôl y lleuad, bydd miliynau o bobl yn ceisio cyrraedd adref i gael gwledd gyda'r holl deulu'n bresennol, yn draddodiadol pryd o "''jiaozi'' (饺子)", math o dwmplins bydd y teulu yn paratoi gyda'i gilydd cyn eu berwi a bwyta ar ôl rhoi math arbennig o finegr arnynt. Am rai dyddiau bydd yr holl wlad yn cymryd hoe, gyda ffatrïoedd yn cau i lawr.
 
O fewn y teulu gwahaniaethir rhwng brawd hyn a brawd iau, chwaer hyn a chwaer iau, sydd yn adlewyrchu i ryw raddau hierarchaeth y gymdeithas. O fewn uned waith neu gwmni disgwylir i'r rhai hŷn (e.e. Lao Zhang - Hen Zhang) edrych ar ôl y rhai iau (Xiao Li - Li Bach) ac i'r iau ufuddhau a pharchu'r bobl hŷn.
 
O dan y drefn draddodiadol byddai dyn cyfoethog yn ceisio meddu ar nifer o wragedd a goddrych. Byddai teulu yn gobeithio am feibion ac yn dibrisio merched (nid yw'r meddylfryd hwn wedi diflannu), hyn oherwydd bod merch wrth briodi yn cael ei hystyried yn rhan o deulu ei gwr. Teflid babanod menywaidd i ffwrdd (erthyliad yw'r ateb nawr) neu eu lladd. Oherwydd y deheuad hwn am feibion ceir fwy o fechgyn nag o ferched yn Tsieina gyda'r canlyniad mai prin iawn yw hen ferched Tsieina gan fod traddodiad yn ymofyn epil (gwrywaidd). Y tebyg yw mai'r gred draddodiadol yw bod angen plant i gynnal eu rhieni yn eu henaint - ac ar ôl iddynt farw trwy ysgubo'u beddau ar yr ŵyl benodol a gyrru arian a nwyddau iddynt yn y "byd a ddaw". Gellir prynu "arian uffern" i'w yrru i'ch hynafiaid meirw trwy ei losgi (a hyd yn oed setiau radio wedi eu gwneud o bapur). Yr ofn traddodiadol oedd cael plant na fedrid dibynnu arnynt i wneud hyn, fel bod eu hynafiaid yn clemio yn y byd a ddaw.
 
=== Bywyd ===
Er bod llawer o ddinasyddion erbyn hyn yn byw mewn fflatiau sydd yn bur gyffyrddus mae llawer o bobl yn byw mewn dull mwy traddodiadol. Yng ngogledd y wlad (lle ceir gaeafoedd oer iawn) ceir "Kang" (炕 Kang4''Kang''), math o lwyfan a gynhesir gan ddefnyddio tan neu o leiaf nwyau poeth o'r tan yn y gegin. Bydd y trigolion yn eistedd ar y kang gyda'i choesau wedi croesi fel teilswyr a hefyd yn defnyddio cwiltiau i gysgu arno.
 
Defnyddir gweill i fwyta, gyda phryd o fwyd yn cynnwys reis neu fara ynghyd a nifer o ddysglau fwydydd crogiedig. Bydd y Tsieineaid yn hoff o gael esgus i wledda ac wrth wneud hyn bydd meistr y tŷ yn defnyddio pâr o weill arbennig i hwylio bwyd i'r gwesteion.
 
Tueddir i beidio ag yfed alcohol heb fwyta rhywbeth ar yr un pryd. Oherwydd rhyw achos ffisiolegol bydd rhai Tsieineaid yn gwrido ac yn chwysu ar ôl yfed alcohol.
 
== Taleithiau ac ardaloedd eraill ==
Llinell 162 ⟶ 161:
== Economi ==
 
Wrth ystyried economi Tsieina dylid cadw mewn golwg y ffaith fod un o daleithiau Tsieina yn debyg o ran maint i wlad. Er enghraifft, ystyrier talaith Sichuan sydd a tua'r un arwynebedd a Ffrainc ond tua dwywaith y boblogaeth.
 
Yn fras, gogledd-ddwyrain a de-ddwyrain Tsieina sydd wedi'u datblygu i'r raddfa fwyaf, gan fod y gorllewin yn sych, gyda chryn dipyn o dir anial yno.
Llinell 168 ⟶ 167:
Gwlad amaethyddol ydyw Tsieina, gyda ffarmio traddodiadol yn fwy tebyg i arddio. Plannu reis mewn caeau bychain sydd yn cael eu boddi yn ôl angen. Er bod mecaneg yn mynd yn ei blaen defnyddir ych ac anifeiliaid eraill.
 
Oherwydd i'r Americanwyr osod gwarchae masnachol ar y wlad wedi iddi syrthio i'r blaid Gomiwnyddol yn 1949 bu'n rhaid iddi droi at yr Undeb Sofietaidd am gymorth (er y darfu i Brydain gydnabod y llywodraeth newydd yn fuan ar ôl hyn, gyda rhai cwmnïau yn cychwyn gwneud busnes bron yn syth gyda'r wlad). Mae'n debyg fod llygaid yr Undeb Sofietaidd ar gadw Tsieina yn wlad amaethyddol. Serch hynny, cychwynnodd y Tsieinaid ddatblygu eu diwydiant, gan ddefnyddio'r hyn oedd ar ôl o weithfeydd rheilffordd y Japaneaid i gynnyrch injans rheilffordd ac ati. Bu rhwyg rhwng yr Undeb Sofietaidd a Tsieina ar gychwyn y 1960au a aeth yr arbenigwyr Sofietaidd yn ôl i'w gwlad, gan adael prosiectau megis pontydd mawr dros yr Afon Yangtze ar hanner eu gorffen. Serch hynny, llwyddodd y Tsieineaid orffen y gwaith.
 
Ers y 1980au, gyda'r polisi o agor y wlad i'r tu allan mae cwmnïau o bob math yn heidio i ddefnyddio llafur rhad i gynhyrchu eu defnyddiau, gyda chwmnïau Tsieineaidd hefyd yn ffynnu.