Thomas De Quincey: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B cat
Tagiau: Golygiad cod 2017
B llun
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 11:
Gadawodd y brifysgol ym 1808, a threuliodd ysbaid o amser yn crwydro hyd Loegr a Chymru. Aeth i breswylio yn Llynnoedd Cumberland, ac yno cafodd gymdeithas awduron enwocaf yr oes. Nid ymroddod De Quincey i lenyddiaeth, oddi eithr er mwyn difyrrwch, nes oedd efe yn ddeugain oed, pryd y gorfu arno, er mwyn ymgynnal, ysgrifennu i'r ''London Magazine''. Yn y cyhoeddiad hwnnw y darfu iddo gyhoedi ei waith amlycaf, ''Confessions of an Opium Eater''. Parhaodd i ysgrifennu o hynny allan ar bob pwnc, ac mewn sawl arddull. A mỳn llawer mai efe, gan eithrio'r Albanwr [[John Wilson]], oedd y cylchgronwr mwyaf gorchestol yng Ngwledydd Prydain.
 
[[Delwedd:Thomas de Quincey by Sir John Watson-Gordon.jpg|chwith|bawd|Portread o Thomas De Quincey gan Syr John Watson-Gordon (1788–1864)]]
Nodir ar gyfrif ei asbri a'i wreiddioldeb, ynghyd â rhwysg a mawredd ei ddychymyg, ac y mae ei arddull hefyd yn ddiguro mewn eglurder ac ystwythder. Dygodd hefyd lenyddiaeth yr Almaen i sylw darllenwyr Saesneg trwy ei gyfieithiadau, rhai blynyddoedd cyn i [[Thomas Carlyle|Carlyle]] ei gwneuthur hi mor adnabyddus.