Frank Lloyd Wright: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Petroc2 (sgwrs | cyfraniadau)
tacluso cyfeiriadau
Llinell 5:
[[UDA|Americanwr]] o [[Wisconsin]] ydoedd, ond gŵr a'i wreiddiau'n ddwfn yng [[Cymru|Nghymru]]. Bu'n bensaer dros 500 o brosiectau gorffenedig, yn awdur dros 20 o lyfrau pensaerniol a chynllunydd dodrefn mwyaf yr 20fed ganrif. Yn 1991 fe gyhoeddodd Cymdeithas Penseiri America mai ef oedd "the greatest American architect of all time". <ref>http://www.businessweek.com/bwdaily/dnflash/jul2004/nf20040728_3153_db078.htm</ref>
 
Ar ôl dod yn bensaer galwodd nifer o'i adeiladau yn "[[Taliesin]]" (yn ogystal a'i [[Taliesin (stiwdio)|gartref ei hun]]).<ref>[http://www.franklloydwright.org/fllwf_web_091104/taliesin.html Taliesin o wefan Sefydliad Frank Lloyd Wright]</ref><ref>[http://www.taliesinpreservation.org/aboutus/faq.htm#TPI_FLLW_FDN Taliesin ar wefan Taliesin Preservation Inc.]</ref>
 
O'r cartref cyntaf gafodd ei gynllunio ganddo hyd at ei farwolaeth, creodd syniadau chwyldroadol megis pensaernïaeth organig (chwedl Fallingwater), a oedd yn pwysleisio y dylai'r adeilad ffitio i fewn yn naturiol i'r ardal mae ynddo. Creodd fathau gwahanol o eglwysi, swyddfeydd, ysgolion, gwestai ayb - yn ogystal a thu fewn i'r adeiladau hyn: y dodrefn a'r ffenestri er enghraifft. Sgwennodd dros ugain o lyfrau'n ymwneud â phensaernïaeth yn ystod ei oes ac roedd yn ddarlithydd poblogaidd iawn drwy America ac Ewrop. Roedd yn berson lliwgar hefyd ac roedd ei fywyd yn llenwi papurau'r oes: methiant dwy briodas a'r tân erchyll a gynnwyd yn fwriadol yn 1914 gan ddifrodi'r [[Taliesin (stiwdio)|Taliesin Studio]] - a lladd 7 o bobl.
Llinell 30:
 
== Cyfeiriadau ==
http://www.franklloydwright.org/fllwf_web_091104/taliesin.html
 
http://www.taliesinpreservation.org/aboutus/faq.htm#TPI_FLLW_FDN
 
<references/>