Pryderi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎Chwedl Pryderi: Rhedeg AWB i glirio gwallau using AWB
Ehrenkater (sgwrs | cyfraniadau)
 
Llinell 3:
==Chwedl Pryderi==
[[Delwedd:Pryderi and Rhiannon from Tales of the Enchanted Islands of the Atlantic 1899.jpg|300px|bawd|"''Pryderi and Rhiannon''", darlun gan Albert Herter (1899)]]
Yn y Gainc Gyntaf, ''[[Pwyll, Pendefig Dyfed]]'', ceir hanes geni Pryderi. Mae Pwyll yn cyfarfod [[Arawn]], brenin [[Annwfn]] (yr [[Arallfyd]]) ac yn cyfnewid lle â fo am flwyddyn ac yn ennill Rhiannon yn wraig. Genir mab i Bwyll a Rhiannon, ond y noson ar ôl ei eni mae y baban yn diflannu. Cyhuddir Rhiannon o'i ladd, ac er iddi wadu hyn mae'r llys yn pwyso ar Pwyll i'w hysgar. Gwrthyd Pwyll wneud hyn, ond mae Rhiannon yn gorfod gwneud penyd. Bedair blynedd yn ddiweddarach mae [[Teyrnon Twrf Liant]], brenin [[Gwent Is Coed]], yn dod â'r mab i lys Pwyll. Roedd y bachgen wedi ei gymeryd trwy hud i lys Teyrnon, lle magwyd ef dan yr enw "Gwri Wallt Eurin". Caiff yr enw '''Pryderi''' o eiriau Rhiannon pan glyw fod ei mab yn fyw: "Oedd esgor fy mhryder im, pe gwir hynny."
 
Wedi marwolaeth Pwyll mae Pryderi yn ei ddilyn ar orsedd Dyfed. Mae'n ychwanegu tri chantref [[Ystrad Tywi]] a phedwar cantref [[Ceredigion]] at ei deyrnas, ac mae'n priodi â [[Cigfa]] ferch Gwyn Gohoyw.
Llinell 9:
Dim ond rhan fechan sydd gan Pryderi yn yr Ail Gainc, ''[[Branwen ferch Llŷr]]''. Wedi'r rhyfel yn [[Iwerddon]] rhwng gwŷr [[Bendigeidfran]] a gwŷr [[Matholwch]], brenin Iwerddon, dim ond saith o'r Cymry sy'n dychwelyd yn fyw, gyda Pryderi yn un ohonynt.
 
Yn y Drydedd Gainc, ''[[Manawydan fab Llŷr]]'', mae Pryderi yn rhoi ei fam, Rhiannon, yn wraig i'w gyfaill [[Manawydan fab Llŷr]]. Cyn hir mae hud yn disgyn ar Ddyfed ac mae ei phoblogaeth yn diflannu, heblaw am Manawydan, Rhiannon, Pryderi a [[Cigfa]], gwraig Pryderi. Gorfodir hwy i symud i Loegr, lle mae Manawydan a Phryderi yn ennill bywoliaeth fel crefftwyr. Maent yn ymgymeryd a nifer o grefftau, ond mae eu gwaith mor dda nes bod y crefftwyr lleol yn elyniaethus ac yn eu gorfodi i symud o fan i fan. Maent yn dychwelyd i Ddyfed, lle mae Pryderi yn cael ei gaethiwio pan mae'n gafael mewn cawg o fewn caer hud ac yn glynu wrtho, ac yna mae Rhiannon hefyd yn cael ei charcharu wrth geisio ei achub. Mae'r gaer a hwythau yn diflannu, gan adael dim ond Manawydan a Chigfa ar ôl. Ymhen dwy flynedd mae Manawydan yn dal un o'r llygod sydd wedi bod yn bwyta ei ŷd, ac yn mynd ati i'w chrogi. Daw ysgolhaig, offeiriad ac yna esgob heibio i geisio perswadio Manawydan i beidio crogi'r llygoden. Datgelir mai gwraig feichiog [[Llwyd fab Cil Coed]] yn rhith llygoden ydyw, ac mai Llwyd a osododd yr hud ar Ddyfed fel dial am y modd y cafodd ei gyfaill [[Gwawl fab Clud]] ei gamdrin gan [[Pwyll]] yn y gainc gyntaf. Rhyddheir ei wraig ar yr amod ei fod yn rhyddhau Pryderi a Rhiannon a chodi'r hud.
 
Yn y Bedwaredd Gainc, ''[[Math fab Mathonwy]]'', mae Pryderi yn arglwydd ar saith cantref [[Morgannwg]] yn ogystal aâ [[Dyfed]], [[Ceredigion]] ac [[Ystrad Tywi]]. Daw [[Gwydion ap Dôn]] o Wynedd i'w lys yn [[Rhuddlan Teifi]] yn rhith bardd i geisio'r moch a gafodd Pryderi gan Arawn, brenin Annwfn. Mae Gwydion yn rhithio ceffylau, milgwn a thariannau, ac yn eu cyfnewid am y moch. Y diwrnod wedyn, mae'r ceffylau, milgwn a thariannau yn diflannu. Mae hyn yn arwain at ryfel rhwng Dyfed a Gwynedd, sy'n diweddu gyda ymladdfa rhwng Pryderi a Gwydion. Lleddir Pryderi, a chaiff ei gladdu ym [[Maentwrog]].
 
==Llyfryddiaeth==