Glaw: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Llinell 19:
Fe barodd y gair hwn gryn benbleth i rai ohonom wrth i ni fewnbynnu dyddiaduron rhyfeddol [[Dyddiaduron amgylcheddol Cymreig|Edward Evans, Parsele, St Edrens, Sir Benfro]] i ddyddiadur Llên Natur. Dyma rai o gofnodion EE yn cynnwys y gair:
:5 Mawrth 1851 ....Bwrodd amryw scwyfur o geseirlaw – ond dim harm
:26 Chwefror 1865 ...Shifftod y gwynt ir West, a daliod yn llid da, odieithr rhai scwyffs o wlaw mân - gwynt Nor. West Hwyr.
Mae Geiradur Prifysgol Cymru yn cyfeirio at y gair fel a ganlyn: sgwyf, ysgwyf (Saesneg eto mae'n debyg) sgum, ewyn, trochion. Felly pa fath o fwrw glaw oedd "Bwrw scwyffs nawr ac eilwaith" (enghraifft arall). Dyma ddywed Geraint Wyn Jones, Hwlffordd: scwyffs = sciffen yn cael ei ddefnyddio yn yr ardal yma am gawod ysbeidiol neu squall. Dyma ddywed Andrew Hawke, golygydd GPC am scwyffs:
:Yn hytrach na sgwyf, ysgwyf, mae'n debycach o fod yn ffurf luosog ar: sgwiffen, [h.y. dim tarddiad] eb. ysgeintiad (o rywbeth): a sprinkling (of something). Ar lafar, `towlu sgwiffan o ddwst dros yr 'ata' (Myn.). Methu gweld dim byd tebyg yn yr OED na'r EDD (English Dialect Dictionary, Wright) yn yr un ystyr - ond mae bron yn sicr yn air benthyg o ryw iaith.