Midas: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu |
|||
Llinell 19:
Gwnaeth Midas hynny, a phan gyffyrddodd â'r dyfroedd, llifodd y gallu i'r afon, a throwyd tywod yr afon yn aur. Roedd hyn yn cael ei ddefnyddio i esbonio pam fod cymaint o aur yn afon Pactolus, a pham fod y rhai oedd yn honni eu bod yn ddisgynyddion i Midas mor gyfoethog. Mae'n bosib nad aur yn unig oedd y tu ôl i gyfoeth Midas - dywedir mai ef wnaeth ddarganfod plwm du a gwyn gyntaf.<ref>[[Gaius Julius Hyginus|Hyginus]], ''[[Fabulae]]'' 274</ref>
Mae chwedl arall am Midas, a oedd erbyn hyn yn casau cyfoeth a moethusrwydd, yn troi i addoli Pan, duw y meysydd a geifrddynion.<ref>
Dywedir i Pan, unwaith, gymharu ei gerddoriaeth â cherddoriaeth [[Apollo]], a'i fod wedi'i herio i weld pa un oedd fwyaf medrus. Tmolus, duw'r mynyddoedd, fyddai'r dyfarnwr. Chwythodd Pan ei bibau a rhoddodd foddhad mawr i'w hun a'i ddilynwr ffyddlon, Midas, a oedd yn digwydd bod yn bresennol. Yna tarodd Apollo dannau ei delyn fach. Rhoddodd Tmolus y fuddugoliaeth ar unwaith i Apollo, ac roedd pawb ond un yn cytuno â'i ddyfarniad. Protestiodd Midas, a chwestiynu teilyngdod Apollo. Nid oedd Apollo am ddioddef y fath wrandawiad eto; dywedodd bod rhaid bod gan Midas glustiau [[asyn]], a dyna ddigwyddodd.<ref>Hyginus, ''Fabulae'' 191.</ref> Mae'r myth wedi'i ddarlunio gan ddau baentiad ''"Apollo a Marsyas"'' gan Palma il Giovane (1544–1628), y naill yn dangos yr olygfa cyn, a'r llall ar ôl, y gosb. Ceisiodd Midas wisgo penwisg i guddio'i anffawd mewn cywilydd, ond roedd ei farbwr yn gwybod ei gyfrinach, a gorchmynnodd ef i beidio â'i rhannu â neb. Aeth allan i weirglodd, tyllu twll yn y ddaear, a sibrwd y stori i mewn iddo, cyn gorchuddio'r twll unwaith eto. Tyfodd gwely o gyrs yn y weirglodd, a dechrau sibrwd y stori, gan ddweud "Mae gan y Brenin Midas glustiau asyn".<ref>
== Cyfeiriadau ==
|