Midas
Midas (Groeg: Μίδας) yw enw o leiaf tri aelod o linach brenhinol Phrygia.
Y Brenin Midas enwocaf yw'r un sy'n cael ei adnabod ym mytholeg Roeg am ei allu i droi popeth roedd yn ei gyffwrdd i mewn i aur. Mae'n debyg bod dinas Phrygaidd Midaeum wedi'i henwi ar ôl y Midas hwn, a hwn hefyd oedd y Midas a sefydlodd Ankara, yn ôl Pausanias.[1] Yn ôl Aristoteles, mae'r chwedl yn honni i Midas farw o newyn o ganlyniad i'w "weddi ofer" am y cyffyrddiad euraid.[2] Roedd y chwedlau yn rhoi hanes y Midas hwn a'i dad Gordias, sy'n cael ei gydnabod am sefydlu'r brifddinas Phrygaidd Gordiwm a chlymu'r Cwlwm Gordaidd. Dywedir eu bod yn byw rhywbryd yn ystod yr 2il fileniwm CC, ymhell cyn Rhyfel Caerdroea. Serch hynny, nid yw Homeros yn crybwyll Midas na Gordias, ond mae'n cyfeirio at ddau frenun Phrygaidd arall, Mygdon ac Otreus.
Roedd Brenin Midas arall yn teyrnasu yn Phrygia yn hwyr yn yr 8g CC hyd at ysbeilio Gordiwm gan y Cimmeriaid, pan dywedir iddo gymryd ei fywyd ei hun. Mae'r rhan fwyaf o haneswyr yn credu mai'r Midas hwn yw'r un person â Mita, brenin y Mushki mewn testunau Assyraidd, a fu'n rhyfel ag Assyria a'r taleithiau Anatolaidd yn yr un cyfnod.[3]
Dywed Herodotus bod trydydd Midas yn aelod o linach frenhinol Phrygia ac yn daid i Adrastus a ddihangodd o Phrygia ar ôl kkadd ei frawd yn ddamweinol a chymryd lloches yn Lydia yn ystod teyrnasiad Croesus. Roedd Phrygia erbyn hynny dan reolaeth Lydia. Dywed Herodotus bod Croesus yn ystyried llinach frenhinol Phrygia yn "gyfeillion" ond nid yw'n sôn bod y llinach yn parhau i deyrnasu fel brenhinoedd (gaeth) yn Phrygia.[4]
Mytholeg
golyguUn diwrnod, fel y dywed Ofydd yn Metamorphoses XI,[5] sylwodd Dionysus fod ei hen ysgolfeistr a thad maeth, y gafrddyn Silenus, ar goll.[6] Roedd yr hen afrddyn wedi bod yn yfed gwin ac wedi crwydro yn ei feddwdod, a daethpwyd o hyd iddo gan werinwyr Phrygaidd a'i cariodd at eu brenin, Midas (mae fersiwn arall yn dweud bod Silenus wedi llewygu yng ngardd rhosod Midas). Adnabyddodd Midas ef a'i drin yn lletygar, a gofalu amdano yn gwrtais am ddeg diwrnod, tra bod Silenus yn diddanu Midas a'i straeon a chaneuon.[7] Ar yr unfed diwrnod ar ddeg, daeth â Silenus yn ôl at Dionysus yn Lydia. Cynigiodd Dionysus unrhyw rodd i Midas o'i ddewis ei hun. Gofynnodd Midas bod unrhyw beth y byddai'n ei gyffwrdd yn troi'n aur.
Roedd Midas wrth ei fodd â'i allu newydd, ac aeth ati i'w ddefnyddio. Cyffyrddodd frigyn coeden dderwen a charreg; trodd y ddau yn aur. Cyn gynted ag yr aeth adref, cyffyrddodd â phob rhosyn yn ei ardd, a throdd y cyfan yn aur. Gorchmynnodd ei weision i baratoi gwledd. Ond sylweddolodd bryd hynny bod hyn yn oed y bwyd a'r diod roedd yn eu cyffwrdd yn troi yn aur, a dechreuodd ddifaru a melltithiodd ei ddymuniad.[8]
Yn fersiwn Nathaniel Hawthorne yn A Wonder-Book for Girls and Boys (1852), daeth merch Midas ato, yn anhapus gyda'r hyn oedd wedi digwydd i'r rhosod. Wrth geisio ei chysuro, trodd Midas ei ferch yn aur hefyd. Roedd Midas yn casau'r rhodd roedd wedi'i ddewis. Gweddiodd i Dionysus, gan ymbil arno i'w arbed rhag llwgu. Clywodd Dionysus ei weddi a chytuno i'w hateb; gan ddweud wrth Midas ymolchi yn afon Pactolus. Yna, byddai unrhyw beth oedd yn cael ei roi yn y dwr yn cael ei adfer o effaith ei gyffyrddiad.
Gwnaeth Midas hynny, a phan gyffyrddodd â'r dyfroedd, llifodd y gallu i'r afon, a throwyd tywod yr afon yn aur. Roedd hyn yn cael ei ddefnyddio i esbonio pam fod cymaint o aur yn afon Pactolus, a pham fod y rhai oedd yn honni eu bod yn ddisgynyddion i Midas mor gyfoethog. Mae'n bosib nad aur yn unig oedd y tu ôl i gyfoeth Midas - dywedir mai ef wnaeth ddarganfod plwm du a gwyn gyntaf.[9]
Mae chwedl arall am Midas, a oedd erbyn hyn yn casau cyfoeth a moethusrwydd, yn troi i addoli Pan, duw y meysydd a geifrddynion.[10] Roedd mythograffwyr Rhufeinig[11] yn honni mai ei diwtor cerddoriaeth oedd Orpheus.
Dywedir i Pan, unwaith, gymharu ei gerddoriaeth â cherddoriaeth Apollo, a'i fod wedi'i herio i weld pa un oedd fwyaf medrus. Tmolus, duw'r mynyddoedd, fyddai'r dyfarnwr. Chwythodd Pan ei bibau a rhoddodd foddhad mawr i'w hun a'i ddilynwr ffyddlon, Midas, a oedd yn digwydd bod yn bresennol. Yna tarodd Apollo dannau ei delyn fach. Rhoddodd Tmolus y fuddugoliaeth ar unwaith i Apollo, ac roedd pawb ond un yn cytuno â'i ddyfarniad. Protestiodd Midas, a chwestiynu teilyngdod Apollo. Nid oedd Apollo am ddioddef y fath wrandawiad eto; dywedodd bod rhaid bod gan Midas glustiau asyn, a dyna ddigwyddodd.[12] Mae'r myth wedi'i ddarlunio gan ddau baentiad "Apollo a Marsyas" gan Palma il Giovane (1544–1628), y naill yn dangos yr olygfa cyn, a'r llall ar ôl, y gosb. Ceisiodd Midas wisgo penwisg i guddio'i anffawd mewn cywilydd, ond roedd ei farbwr yn gwybod ei gyfrinach, a gorchmynnodd ef i beidio â'i rhannu â neb. Aeth allan i weirglodd, tyllu twll yn y ddaear, a sibrwd y stori i mewn iddo, cyn gorchuddio'r twll unwaith eto. Tyfodd gwely o gyrs yn y weirglodd, a dechrau sibrwd y stori, gan ddweud "Mae gan y Brenin Midas glustiau asyn".[13] Mae rhai ffynonellau yn honni bod Midas wedi lladd ei hun trwy yfed gwaed ychen.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Pausanias 1.4.5.
- ↑ Aristotle, Politics, 1.1257b.
- ↑ Gweler er enghraifft Encyclopædia Britannica. Hefyd, Lynn E. Roller, "The Legend of Midas", Classical Antiquity, 22 (October 1983):299-313.
- ↑ Herodotus I.35.
- ↑ On-line text at Theoi.com
- ↑ Mae'r myth yn ymddangos yng ngwaith Aristoteles Eudemus, (darn 6).
- ↑ Aelian, Varia Historia iii.18 relates some of Silenus' accounts (Graves 1960:83.b.3).
- ↑ Claudian, In Rufinum: "sic rex ad prima tumebat Maeonius, pulchro cum verteret omnia tactu; sed postquam riguisse dapes fulvamque revinctos in glaciem vidit latices, tum munus acerbum sensit et inviso votum damnavit in auro."
- ↑ Hyginus, Fabulae 274
- ↑ Mae'r myth yma yn cyflwyno Midas yn wahanol. Dywed Flavius Philostratus, yn ei Life of Apollonius of Tyana (vi.27) bod gan Midas rhywfaint o waed geifrddynion. (on-line Archifwyd 2013-01-29 yn y Peiriant Wayback)
- ↑ Cicero On Divinationi.36; Valerius Maximus, i.6.3; Ovid, Metamorphoses, xi.92f.
- ↑ Hyginus, Fabulae 191.
- ↑ Mae sŵn sibrwd y cyrs yn hen drosiad llenyddol. Mae Cyfarwyddiadau Shuruppak o'r 3ydd mileniwm CC yn rhybuddio bod cyrs yn gallu cuddio athrod (Cyfarwyddiadau Shuruppak, llinellau 92-93).