Seland Newydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Wedi gwrthdroi golygiadau gan 194.83.245.53 (Sgwrs); wedi adfer y golygiad diweddaraf gan Sian EJ.
Tagiau: Gwrthdroi
Ortográfia reduzida
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Llinell 51:
}}
 
Gwlad yn y [[MôrCefnfor Tawel]] sydd yn cynnwys dwy ynys fawr ([[Ynys y Gogledd, Seland Newydd|Ynys y Gogledd]] ac [[Ynys y De, Seland Newydd|Ynys y De]]) a nifer o ynysoedd bychain yw '''Seland Newydd'''. Yn iaith y [[Maori]], pobl wreiddiol yr wlad, '''Aotearoa''' yw ei henw, a chyfieithir yr enw yn aml fel "gwlad o dan gwmwl gwyn hir". Yn ôl y chwedlau, roedd cwmwl gwyn uwchben uwch pan ddaeth y bobl gyntaf i'r wlad.
 
[[Auckland]] ar Ynys y Gogledd yw'r ddinas fwyaf, ond Wellington (ar yr un ynys) yw'r brifddinas. Y mynydd uchaf yw [[Aoraki/Mynydd Cook]] (3,754 m (12,316')) ar Ynys y De. [[Awstralia]] yw'r wlad agosaf. Mae [[Caledonia Newydd]], [[Ffiji]] a [[Tonga|Thonga]] i'r gogledd, ond cryn bellter i ffwrdd. Er gwaethaf yr enw, dydy'r môr o gwmpas yr ynysoedd ddim yn dawel o gwbl yn aml, ac mae'n gallu ei gwneud yn anodd i hwylio ar draws y "Cook Strait" rhwng y ddwy brif ynys.