Torgoch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Llinell 58:
Dyna i'r darllenydd holiadau ag atebion cant oed am y Torgochiaid. Mae pethau wedi troi o chwith erbyn heddyw. Welodd Dafydd Ddu Eryri a'i gydoeswyr erioed ddal y Torgoch gyda genwair, ond gyda rhwyd, ond erbyn heddyw ychydig iawn yw'r nifer welodd ddal y Torgoch gyda rhwyd, ond gyda genwair. Gallem gasglu fod mwy o Dorgochiaid yn Llynoedd Padarn a Peris pan oedd rhyddid i'w rhwydo, na phan na cheir ond eu genweirio. Cefais ymgom gyda yr henafgwr Robert Rowland, Snowdon Street, y dydd o'r blaen, un o enweirwyr goreu'r fro, ond sydd erbyn hyn wedi peidio; oherwydd gwaeledd. Coeliaf fod yr hanes yn werth ei gadw ar gyfrif dechreuad pysgota y Torgoch gyda genwair. Dywedaf yr hanes yn ei ddull syml ef wrthyf.
::"Yr oeddwn i a Hugh Thomas, Brvn-tyrch, yn pysgota brithilliaid yn yr Ynys Felan, sef yr afon sydd rhwng Llyn Padarn a Peris, ac yr oeddwn i yn pysgota o'r cwch i'r bas, a Hugh Tomas i'r dyfn, a dyma fi yn dechreu dal yn y lle mas [bas?, ''sic''], a Hugh yn dal dim un yn y dyfn. 'Toedd yr un ohonom yn meddwl mai Torgochiaid oeddan nhw, ond yn meddwl mai brithilliaid, achos yr oedd hi yn rhy dywyli i'w gwel'd nhw yn iawn. Yr oeddan wedi myn'd i ddechreu pysgota cyn toriad y dydd. Beth bynag, mi ddalis i bedwar ar bymtheg ohonyn nhw, ac 'rydw i yn cofio yn iawn eu bod nhw yn pwyso pum' pwys, ond ddaliodd Hugh Tomos ddim un, ond un brithhill bach. Chlywis i ddim son erioed fod neb wedi dal y Torgoch cyn hyny hefo genwar."
::"Faint o amser sydd er hyny, Robert Rolant?"
::"Wel, twn [''sic''] i ddim yn iawn, ond rydw i yn cofio mai amser gweithio pedwar diwrnod yn y chwarel oedd hi - tua ugain o flynyddoedd, mae'n debyg. Cofiwch hyn, mai'r tymhor wed'yn y dechreuodd pawb yn gyffredinol eu pysgota hefo genwar. Mi welis i gimint a phymthag ar hugian o gychod ar y llyn yna ar unwaith, a phawb yn dal rhywfaint.
::"Oeddynt hwy yn arfer a rhwydo y Torgochiaid cyn dechreu eu pysgota hefo genwair?"
::"Oeddynt, agos bob blwyddvn, ac yn dal peth ofnadwy. Mi gwelis i nhw yn tynu rhyw ddau gybynad i'r lan ar un tynfa. 'Rwy'n meddwl na fethwn i ddim wrth ddweud bod 'na filoedd yn cael eu dal."
::"Ydych chwi yn meddwl fod yna gymaint ohonynt yn awr ag a fu?"
::"Nac oes, 'rwy'n credu. Gwaith effeithiol i gynnyddu pysgod ydyw rhwydo. Rwy' bron yn sicr y byddai un cwch, rhyw ugian i bump ar hugian o flynyddoedd yn ol yn dal mwy ohonynt nac a ddelir ar hyd y tymhor yrwan. Dyma i chwi beth arall am danynt, ni fyddem yn eu dal yn nechreu y tymhor — tua diwedd mis Mehefin, yn ngwaelod y llyn, rhyw bymtheg i ugian llath o ddyfn, ag at ddiwedd y tymhor byddent yn codi i fyny i'r wyneb agos."
 
Coeliaf fod ffeithiau Dafydd Ddu a ffeithiau Robert Rowlant yn llefaru, mai po fwyaf a ddelir ohonynt mai mwyaf oll fydd ohonynt. Ni threiaf gysoni hyn. <ref> awdur y traethawd: WILLIAM WILLIAMS. Bod y Gof, Llanberis[https://newspapers.library.wales/view/3780929/3780932/20/Torgoch]</ref>