*Adroddiad y meteorolegydd Leslie Larsen o [[Penisarwaun|Benisarwaun]]
”Dyma ychydig o ansoddeiriau parchus am yr haf hwn [a ysgrifennwyd ar y pryd]: glawog, cymylog, gwyntog, diflas, undonog, gyda bwrw, haul yn aml ac ambell i daran. Yr oedd yr haf yn wlypach na hyd yn oed haf 2007 pan gawsom 476 mm o law [tua 19 modfedd]. Eleni daeth 511mm [20 modfedd] i lawr ar y pentref [Penisarwaun]; 243.5mm ym Mehefin, 132.5mm yng Ngorffennaf a 135mm yn Awst, a hynny ar 70 ddyddiau allan o 92. Ar ben hyn oll ni chafwyd llawer o ddyddiau poeth. Yr unig ddiwrnod poeth oedd yr 11eg o Awst pan aeth y tymheredd i fyny i 24.6C. Gyda llaw yn ystod haf 2011, 49 o ddyddiau gyda glaw a gawsom.</br>
Gwnaed yr haf yn fwy llwm oherwydd absenoldeb nifer o greaduriaid: ee. 1. Y fuwch goch gota; 2. sboncyn [sioncyn] y gwair o unrhyw fath; 3. gloynod byw onibai am y gwynion; 4. pry llwyd a'i bigiad distaw. Ar yr ochr orau o'r haf oedd ymweliad y barcut coch wrth yr hen ysgol, a gardd yn Nhanycoed, Llanrug yn lloches i ddraenog. A braf oedd gweld llyffant du y dafedennog yn yr ardd acw. Hefyd bu adar y to yn llwyddiannus yn magu teulu yn nho y modurdy. Roedd gwennol y bondo hefyd yn llwyddiannus yn magu teulu ym mondo ty gerllaw.“<ref>Data ac argraffiadau L. Larsen ym Mwletin Llên Natur rhifyn 56[https://www.llennatur.cymru/Content/Upload/Cylchgrawn56.pdf]</ref>