Plaid Werdd Cymru a Lloegr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
tacluso
Llinell 3:
Mae'r blaid yn gweithredu yng Nghymru dan yr enw 'Plaid Werdd Cymru', sy'n ymreolaethol o fewn Plaid Werdd Cymru a Lloegr.
 
==Y BlaidPlaid Werdd yng NghymruCymru==
Cangen lled-annibynnol y Blaid Werdd Cymru a Lloegr ydy '''Plaid Werdd Cymru'''. Mae gan y Blaid Werdd (Cymru a Lloegr) 126 cynghorwyr ond does dim un yng Nghymru. Ond mae un cynghorydd Gwyrdd ar gyngor Tref Mynwy sef y Faeres Ann Were a etholwyd i'r swydd ym Mai 2009. Arweinydd y Blaid yng Nghymru yw Jake Griffiths.
 
Mae safle we uniaith Saesneg ac addewid am fersiwn Cymraeg.
 
===Cyd-weithio a [[Plaid Cymru|Phlaid Cymru]]===
 
Mae'n bosibl cysidro [[Cynog Dafis]] fel aelod seneddol cyntaf i'r Blaid Werdd gan fod cytundeb rhwng y pleidiau yng Ngheredigion. Roedd Cynog yn gefnogol iawn i syniadau gwyrdd fel y "Bunt Werdd" ac roedd cefnogaeth y gwyrddion yn bwysig mewn etholaeth ymylol. Cynrychiolodd Etholaeth [[Ceredigion]] (etholaeth seneddol)|Etholaeth Ceredigion a Gogledd [[Sir Benfro]] i Blaid Cymru a'r Blaid Werdd ar y cyd o Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1992 tan 2000. Mae aelodau o Blaid Cymru yn [[Llundain]] wedi helpu'r Gwyrddion yn etholiad cyffredinol 2010, e.e. Rob Sciwen Davies yn Nwyrain Llundain a Petroc ap Seisyllt yn [[Lewisham]]. Adlewyrchiad yw hyn o'r berthynas rhwng y dwy blaid yn [[Senedd Ewrop]] fel cyd aelodau o'r EPA, clymblaid o bartion rhanbarthol a gwyrddion. Ar hyn o bryd [[Jill Evans]] o Blaid Cymru yw arweinydd y Gwyrddion-[[Cynghrair Rydd Ewrop]] yn [[Senedd Ewrop]], ac felly yn arweinydd Ewropeaidd y Gwyrddion.
 
==Swyddogion a Changhennau ym Mai 2010==