Plaid Werdd Cymru a Lloegr
Plaid wleidyddol yn y Deyrnas Unedig sy'n gweithredu yng Nghymru a Lloegr ydy Plaid Werdd Cymru a Lloegr (Saesneg: Green Party of England and Wales). Mae'n aelod o Blaid Werdd Ewrop a'r mudiad Gwyrdd rhyngwladol a hi yw'r blaid werdd fwyaf yng ngwledydd Prydain. Sefydlwyd y blaid yn 1990 pan ymrannodd 'Y Blaid Werdd' yn dair rhan: Iwerddon, yr Alban a hon (Cymru a Lloegr). Yn wahanol i fwyafrif y pleidiau eraill, mae wedi'i seilio ar thema, sef dyfodol y blaned a'r pwysigrwydd o leihau carbon deuocsid, cynaladwyedd, cynhesu byd eang, cynyddu egni adnewyddadwy a lleihau ynni niwclear a'n dibynedd ar danwydd ffosil. Mae hefyd yn gefnogol i gynrychiolaeth gyfrannol.
Plaid Werdd Cymru a Lloegr | |
---|---|
![]() | |
Arweinydd | Jonathan Bartley a Siân Berry |
Dirprwy arweinydd | Amelia Womack |
Sefydlwyd | 1990 |
Rhagflaenwyd gan | Y Blaid Werdd |
Pencadlys | Development House, 56-64 Leonard Street, London, EC2A 4LT |
Asgell yr ifanc | Gwyrdd Ifanc Cymru a Lloegr |
Aelodaeth (2014) | ![]() |
Rhestr o idiolegau | Cynaladwyedd, Cynhesu byd eang, Egni adnewyddadwy |
Sbectrwm gwleidyddol | Gwleidyddiaeth asgell chwith |
Partner rhyngwladol | Y Blaid Werdd Rhyngwladol |
Cysylltiadau Ewropeaidd | Plaid Werdd Ewrop |
Grŵp yn Senedd Ewrop | Cynghrair Rhydd Ewrop y Blaid Werdd |
Lliw | Green |
Tŷ'r Cyffredin | 1 / 573 |
Tŷ'r Arglwyddi | 1 / 784 |
Seddi Cymru a Lloegr ar Senedd Ewrop | 3 / 64 |
Cynulliad Llundain | 2 / 25 |
Cynulliad Cenedlaethol Cymru | 0 / 60 |
Llywodraeth leol yng Nghymru a Llywodraeth leol yn Lloegr[2] | 176 / 19,023 |
Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu | 0 / 41 |
Gwefan | |
www.greenparty.org.uk |
Mae'n gweithredu yng Nghymru dan yr enw 'Plaid Werdd Cymru', sy'n ymreolaethol o fewn Plaid Werdd Cymru a Lloegr.
Yn 2014 roedd gan y blaid un Aelod Seneddol yn Nhŷ'r Cyffredin, sef Caroline Lucas, sy'n cynrychioli etholaeth Brighton Pavilion.[3] Roedd Lucas yn arweinydd y blaid rhwng 2008 a 2012, pan drosglwyddwyd yr awennau i Natalie Bennett.[4][5] Mae gan y Blaid Werdd hefyd un arglwydd am oes.
Plaid Werdd Cymru Golygu
Cangen lled-annibynnol o Blaid Werdd Cymru a Lloegr ydy Plaid Werdd Cymru. Mae gan y Blaid Werdd Cymru a Lloegr 126 cynghorwyr ond does dim un yng Nghymru.
Cyd-weithio â Phlaid Cymru Golygu
Ystyrir Cynog Dafis yn aelod seneddol cyntaf y Blaid Werdd oherwydd cytundeb rhwng y Blaid Werdd a Phlaid Cymru yng Ngheredigion. Roedd Cynog yn gefnogol iawn i syniadau gwyrdd fel y "Bunt Werdd" ac roedd cefnogaeth y Gwyrddion yn bwysig mewn etholaeth ymylol. Cynrychiolodd Cynog Etholaeth Ceredigion a Gogledd Sir Benfro dros Blaid Cymru a'r Blaid Werdd ar y cyd o Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1992 tan 2000. Mae aelodau o Blaid Cymru yn Llundain wedi helpu'r Gwyrddion yn etholiad cyffredinol 2010, e.e. Rob Sciwen Davies yn Nwyrain Llundain a Petroc ap Seisyllt yn Lewisham.[angen ffynhonnell] Mae hyn yn adlewyrchiad perthynas y ddwy blaid yn Senedd Ewrop fel cyd aelodau o'r EPA, clymblaid o bartïon rhanbarthol a Gwyrddion. Ar hyn o bryd Jill Evans, Plaid Cymru, yw arweinydd y Gwyrddion - Cynghrair Rydd Ewrop yn Senedd Ewrop, ac felly yn arweinydd Ewropeaidd y Gwyrddion.
Swyddogion a Changhennau ym Mai 2010 Golygu
- Ysgrifennydd Cyffredinol: John Matthews
- Swyddog y Wasg: Jake Griffiths
- Aelodaeth: Owen Clarke
- Gwyrddion Ifainc: Sam Coates
- Caerdydd a'r Fro: Jake Griffiths
- Ceredigion : Chris Simpson
- Gwent: Diane Howell
- Gogledd Cymru: Joe Blakesley
- Abertawe: Keith Ross
Cyfeiriadau Golygu
- ↑ https://twitter.com/greencraven/status/545589667463454720
- ↑ "Green Party - Elections". The Green Party of England and Wales. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-02-08. Cyrchwyd 25 Ebrill 2014. Italic or bold markup not allowed in:
|publisher=
(help) - ↑ "Election 2010 – Constituency – Brighton Pavilion". BBC News. 7 May 2010. Cyrchwyd 7 May 2010.
- ↑ Jowit, Juliette (5 Awst 2004). "Green party elects Natalie Bennett as leader". The Guardian. London. Cyrchwyd 3 Medi 2012.
- ↑ "Natalie Bennett elected new Green Party leader in England and Wales". BBC News. 3 Medi 2012. Cyrchwyd 3 Medi 2012.
Dolenni allanol Golygu
- (Saesneg) Gwefan swyddogol
- (Saesneg) blog
- (Saesneg) maniffesto[dolen marw]