Baner Saint Martin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Stefanik (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau) |
||
Llinell 1:
[[
[[
[[
'''Baner Cymuned Saint Martin Ffrengig''' Ffrengig yw [[Baner Ffrainc|baner Ffrainc]]. Mae [[Cymuned Saint Martin Ffrengig]] yn rhan o gymuned Ffrainc fel ''collectivité d'outre-mer'' (COM). Mae'r gymuned Ffrangeg yn rhannu [[Ynys Saint Martin]] gyda [[Sint Maarten]], sy'n rhan o Deyrnas yr Iseldiroedd. Mae'r ynys wedi ei lleoli yn yr Antilles ym [[Môr y Caribî]].
Ceir dwy baner answyddogol, un sy'n arddangos arfbais y gymuned ar faes gwyn. Ceir hefyd baner mwy gyfoes sydd, ymddengys wedi ei defnyddio ers yr 1900au ond mae gwybodaeth amdanni'n anelwig.<ref>https://fotw.info/flags/mf.html#dub</ref> Mae'r faner yn arddel [[maes (herodraeth)|maes]] glas gyda [[triongl]] gwyn yn disgyn o'r brig ac yn cyffwrdd gwaelod y faner i greu siâp 'Y'. Yn y canol ceir triongl coch ac uwchlaw hanner disg melyn sy'n dybiedig yno i ddarlunio haul yn codi ar y gorwel.
[[
Ceir hefyd faner, sydd mewn gwirionedd yn logo wedi ei rhoi ar luman, ar gyfer ''Collectivité' de Saint-Martin'', sef y llywodraeth leol. Mae'n cynnwys enw'r ynys a'r geiriau "Saint-Martin Caraïbe Français French Caribbean" gyda rhuban yn rhannol amgylchynu'r geiriau. Mae rhan uchaf y rhuban yn dilyn siap arfordir gogledd yr ynys ac mewn gwyrdd, tra fod gweddill y rhuban mewn glas gan amlinellu yn fras, ochr orllewinnol yr ynys.
|