Eira: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Llinell 52:
==Geiriau eraill am eira?==
===Ôd===
Meddai Bethan Wyn Jones<ref>Daily Post Rhag 15, 2011</ref>: ”Diolch yn fawr iawn i J. Heddwyn Jones, [[Dwygyfylchi]] am ei gasgliad o ddywediadau am y tywydd oer, ac yn arbennig am “cenllysg“[[cenllysg]] i eira – crasod i law”. Doeddwn innau chwaith wedi clywed y gair crasod erioed o’r blaen.” Tybed beth yn union a olygwyd gan “crasod”
 
Dyma erthygl ddaeth i law trwy BWJ<ref name=AilNatur>Ail Natur 43, (13 Mawrth 2013)</ref>: “Yn dilyn y cyfeiriad at odi a chrasod, bum yn siarad â Gareth Pritchard Hughes o [[Rosllannerchrugog]] gan fod odi yn air cyffredin yno am fwrw eira. Yn ôl Gareth roedd “Odi” yn arfer cael ei ddefnyddio ar lafar yn siroedd [[Fflint]] a [[Dinbych]], ble siaredid yr hen [[Powyseg|Bowyseg]] ac mae’n hen air sy’n mynd yn ôl i’r 10fed Ganrif. Mae pennill fel hyn yn y Rhos:
:‘Odi, odi blawd yn codi
:Dŵr ar y tân i olchi llestri’”
 
Dydyn nhw ddim yn taflu peli eira yn y Rhos chwaith, maen nhw’n “mopio”. “Mopen” ydi pelen eira. Roedd Euros Bowen wedi dweud mai crasod oedd y gair am genllysg yn [[Dolgellau|Nolgellau]] – cras ôd. Manod (mân ôd) wedyn ydi eira mân sy’n lluwchio, hynny ydi eira’n cael ei yrru gan y gwynt. Roedd gwedd merch yn cael ei ddisgrifio “fel mannod”. Yn ei Gywydd i Ferch mae [[Dafydd ab Edmwnd]] (1450 – 1497) oedd yn dod o [[Hanmer]], ym [[Maelor Saesneg]] yn canu fel hyn:
:“Dy wyneb fel ôd unnos
:Dy wrid fel bagad o ros.”
Mae’r [[Ficer Pritchard]] wedyn yn disgrifio puredigaeth drwy waed Crist:
:“Crist a’i waed a ylch dy bechod
:Ac a’th wnaiff mor wyn â’r mannod.”<ref name=AilNatur/>
 
Yn y Beibl mae cyfeiriad at ôd yn [[Diarhebion 26]], :
:“Megis ôd yr haf, neu law y cynhaeaf, felly nid cymwys i’r ffôl anrhydedd”.<ref name=AilNatur/>
 
Llinell 74:
Mae hen bennill sy’n canu fel hyn:
:“Caëed pawb ei ddrws yn chwipyn,
:Mae’r ôd yn barod ar ben [[Berwyn]];
:Daw i lawr â’r niwl i’w ganlyn,
:Hulyn gwyn i hulio’n gwanwyn.”<ref name=AilNatur/>
 
Fe ganodd [[Gwenallt]]:
:“Lle’r aeth eu gwychder a’u gwedd?
:Lle heno mae ôd llynedd?” </br>

Ac meddai [[William LlynLlŷn]]:
:“Trwm ar iâ yw tramwy’r ôd,
:Trymach yw torri amod.”
 
Rydw i’n arbennig o hoff oA hon gan [[T. Eurig Davies]]:
:“Yr ôd, os hir yr oeda
:Ar ryw drum, hwyr y daw’r ha.”<ref name=AilNatur/>
:Ai fel hyn y bydd hi eleni?
 
===Nyf===