Criced: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
llun
Tagiau: Golygiad cod 2017
Dim crynodeb golygu
Llinell 5:
Ar bob pen y llain, mae strwythur pren wedi ei ffurfio o dri pholyn paralel, fertigol (a elwir yn 'stympiau') wedi eu gyrru i mewn i'r ddaear a dau ddarn croes (caten/catiau) yn gorwedd ar ben y stympiau. Gelwir y strwythurau hyn yn '[[wiced]]i'. Bydd un o chwaraewyr y tîm sy'n maesu (y '[[bowliwr]]') yn bowlio pêl ledr o un wiced tuag at y wiced arall, gan geisio ei tharo. Wedi ei 'bowlio', fel arfer, bydd y bêl yn adlamu unwaith oddi ar y llain cyn cyrraedd chwaraewr o'r tîm arall (y '[[batiwr]]'), sy'n amddiffyn y wiced rhag y bêl gyda [[bat criced]] pren. Ceir 6 phelen mewn 'pelawd' a cheir nifer o belawdau mewn gêm ee 20, 40 neu 50.
 
[[Delwedd:Morgannwg yn erbyn Lancaster against Glanmorgan at Bae Colwyn North Wales 01.png|bawd|800px|canol|Clwb Criced Bae Colwyn gyda Morgannwg yn chwarae yn erbyn [[Clwb Criced Swydd Gaerhirfryn|Swydd Gaerhirfryn]]; 21 Gorffennaf 2015.]]
 
Mewn criced proffesiynol, mae hyd y gêm yn amrywio o 20 pelawd (''Twenty20'') (i bob tîm) - i griced prawf a chwaraeir dros gyfnod o bum niwrnod. Y 'Cyngor Criced Rhyngwladol' (yr ''ICC'') a Chlwb Criced Marylebone (''MCC'') sy'n gyfrifol am gyfreithiau'r gêm undydd a phrawf.<ref>[http://www.lords.org/laws-and-spirit/laws-of-cricket/laws/ MCC{{spaced ndash}}the official Laws of Cricket]. Retrieved 25 July 2009.</ref>