Cyflafan Christchurch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
B tr
Llinell 1:
[[Delwedd:Flowers and tributes at Linwood Avenue memorial for Christchurch mosque shootings 2, 23 March 2019.jpg|bawd|Negeseuon er cof am y meirw a blodau wedi eu bachu ar ffens yn Linwood Avenue, rownd y gornel i Ganolfan Islamaidd Linwood.]]
Ymosodiad [[terfysgaeth|terfysgol]] yn erbyn [[Mwslim]]iaid oedd '''cyflafan Christchurch''' a darodd dau [[mosg|fosg]] yn ninas [[Christchurch]], [[Seland Newydd]], ar [[15 Mawrth]] [[2019]]. Saethwyd 50 o bobl yn farw gan ddyn arfog oedd yn arddel [[goruchafiaeth y gwynion]] ac ideoleg gwrthwrth-[[Islam]]aidd.<ref>https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/47582534</ref><ref>{{eicon en}} "[https://www.aljazeera.com/news/2019/03/zealand-mosque-gunman-inspired-serb-nationalism-190315141305756.html Mosque shooter brandished material glorifying Serb nationalism]", [[Al Jazeera]] (15 Mawrth 2019). Adalwyd ar 16 Mawrth 2019.</ref>
 
Bu farw 42 o addolwyr ym Mosg Al Noor a'r ardal o'i amgylch ym maestref Riccarton yn ystod gweddi'r Gwener. Defnyddiodd yr ymosodwr [[dryll lled-awtomatig|ddrylliau lled-awtomatig]], ac roedd ganddo sawl arf arall yn ei gar. Dechreuodd yr ymosodiad tua 13:40 (Amser Haf Seland Newydd) a barodd tua chwe munud cyn i'r llofrudd yrru i Ganolfan Islamaidd Linwood, rhyw 5&nbsp;km i ffwrdd, a saethwyd 7 yn farw yn y mosg hwnnw.<ref>{{eicon en}} "[https://www.stuff.co.nz/national/111319664/christchurch-shootings-terrorist-attack-new-zealand-livestream-christ-church-mosque-muslims-christ-church-brenton-tarrant-nz-live-updates Christchurch mosque terrorist shootings: What you need to know]", Stuff.co.nz (16 Mawrth 2019). Adalwyd ar 17 Mawrth 2019.</ref> Cafodd yr ymosodwr ei wrthsefyll gan Abdul Aziz, a lwyddodd i hel y dyn ymaith a chipio'i [[gwn haels|wn haels]].<ref>{{eicon en}} "[https://www.nzherald.co.nz/nz/news/article.cfm?c_id=1&objectid=12213468 Christchurch mosque shootings: He ran towards the gunman armed only with a credit card machine]", ''The New Zealand Herald'' (17 Mawrth 2019). Adalwyd ar 16 Mawrth 2019.</ref> Ym Mosg Al Noor, ceisiodd Naeem Rashid daclo'r ymosodwr, ond cafodd ei saethu a bu farw ef yn ddiweddarach yn yr ysbyty.<ref>{{eicon en}} "[https://www.wsj.com/amp/articles/trapped-in-christchurch-mosque-worshipper-attempts-to-disarm-shooter-11552760707 Trapped in Christchurch Mosque, Worshiper Attempted to Disarm Shooter]", ''[[The Wall Street Journal]]'' (16 Mawrth 2019). Adalwyd ar 19 Mawrth 2019.</ref>