Ffosfforws gwyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B cywiro rhyngwici en
Llinell 10:
==Defnyddio ffosfforws gwyn gan Israel yn Gaza==
[[Delwedd:Bombingofgaza.JPG|250px|bawd|Bomiau ffosfforws gwyn Israelaidd yn taro dinas [[Gaza]] (Llun: [[Al Jazeera]])]]
Mae [[Israel]] wedi cael ei beirniadu gan sawl grŵp hawliau dynol, asiantaethau dyngarol ac eraill am ddefnyddio arfau anghonfensiynol yn erbyn sifiliaid Gaza yn ei [[Ymosodiad Israel ar Lain Gaza 2008-presennol|ymosodiadau ar y ddinas yn rhyfel 2008-2009]]. Mae hyn yn cynnwys y defnydd o fomiau ffosfforws gwyn ar ardaloedd dinesig.<ref>[http://english.aljazeera.net/news/middleeast/2009/01/200911114222894141.html Fideo: Bomiau ffosfforws gwyn yn ffrwydro dros Gaza] [[Al Jazeera]].</ref> Yn ôl y meddygon yn [[Ysbyty Al-Shifa]] yn ninas Gaza, roedd nifer uchel o'r sifiliaid anafiedig yno yn dioddef o anafiadau llosg dwfn. Mae dafnau o'r cemegyn ffosfforws gwyn yn llosgi trwy'r cnawd i'r asgwrn. Yn ôl llygad-dystion sifilaidd, defnyddiwyd bomiau ffosfforws gwyn dros ddinas Gaza a [[Jabaliya]] yn ail wythnos y rhyfel. Roedd y bomiau'n tasgu cannoedd o ddafnau llosg dros ardaloedd lle mae nifer o bobl yn byw yn agos iawn i'w gilydd yn Jabaliya. Roedd y mwg gwyn trwchus yn drewi'n ofnadwy ac yn tagu pobl a'i gwneud yn anodd i bobl anadlu. Adroddodd llygad-dyst arall ei bod hi wedi gweld "fflach llachar ac wedyn syrthiodd nifer o wreichionau dros y gymdogaeth gan lanio o gwmpas pobl ac ar eu tai." Dywedodd bod matresi yn ei thŷ hi wedi mynd ar dân o ganlyniad i hyn. Mae'r grŵp Americanaiddhawliau dynol [[Human Rights Watch]] yn dweud er nad yw defnyddio ffosforws gwyn ar faes y gad yn anghyfreithlon ynddo ei hun, mae ei ddefnyddio yn fwriadol yn erbyn ardaloedd llawn o sifiliaid yn torri [[cyfraith ryngwladol]].<ref>[http://english.aljazeera.net/news/middleeast/2009/01/20091111392884765.html "'Phosphorus' fears over Gaza wounds" 11.01.2009] [[Al Jazeera]].</ref><ref>[http://www.presstv.ir/detail.aspx?id=80720&sectionid=351020202 "White phosphorus added to Israeli fire" 05.01.2009]</ref>
 
Am chwarter i saith amser lleol ar yr 17eg o Ionawr, saethodd tanciau Israelaidd fomiau ffosfforws ar un o ysgolion [[UNRWA]] yn [[Beit Lahiya]], fymryn i'r gogledd o Gaza ei hun. Roedd 1,600 o sifiliaid yn cysgodi yno. Aeth rhan o'r adeilad ar dân ac yn fuan ar ôl hynny saethwyd rownd arall a laddodd ddau blentyn. Saethwyd eto wrth i'r ffoaduriaid geisio dianc a lladdwyd pedwar o sifiliad arall. Galwodd [[John Ging]], pennaeth UNRWA, am ymchwiliad llawn i hyn ac ymosodiadau eraill gan Israel yn Gaza fel troseddau rhyfel posibl.<ref>[http://english.aljazeera.net/news/middleeast/2009/01/20091177657498163.html "Israel shells UN school in Gaza" 17.01.2009] [[Al Jazeera]].</ref> Ymwelodd [[Ban Ki-moon]], Ysgrifenydd Cyffredinol y CU, â dinas Gaza a'r gogledd ar yr 20fed o Ionawr. Dywedodd fod yr hyn a welodd yn "ddychrynllyd" a galwodd am ymchwiliad llawn i'r bomio o wersylloedd UNRWA gan yr [[IDF]], a oedd yn "ymosodiad wrthun a hollol annerbyniol ar y CU" gan ychwanegu y byddai'r rhai fu'n gyfrifol yn "atebol" am eu gweithrediadau.<ref>[http://english.aljazeera.net/news/middleeast/2009/01/200912013138315261.html "Ban demands probe into Gaza attacks" 20.01.2009] [[Al Jazeera]].</ref>