Cwmpawd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
B Manion
Llinell 10:
===Y Cwmpawd Celtaidd===
 
Yn y ddeigram<ref>[https://www.llennatur.cymru/Content/Upload/Cylchgrawn4546.pdf ym Mwletin Llên Natur rhifyn 45/46 (tud. 2)[https://www.llennatur.cymru/Content/Upload/Cylchgrawn4546.pdf]</ref> gan y Llydäwr Dominig Kervegant, fe ddangosir perthynas y cwmpawd Llydewig a’r llaw chwith a’r llaw dde.</br>
 
O gymryd y dwyrain yn hytrach na’r gogledd fel man cychwyn mae gogLEDD, sydd gytras á ''kleiz'' (chwith) y Llydaweg, yn dangos bod patrwm cyson yn cysylltu’r Aeleg, y Llydaweg a’r Gymraeg o leiaf.
Llinell 17:
 
:Y gair Gaeleg am granc meudwyol yw ''partan tuathal'', yn llythrennol y 'cranc chwithig' (neu trwsgwl). Cysylltir ''tuathal'' â chwith (aswy) a gogledd, yn ogystal a bod yn gysylltiedig â 'chwithdod' neu 'anghywirdeb'. Benthycwyd 'partan' o'r iaith Sgotaidd ac fe'i defnyddir o hyd am 'cranc' yn nhafodiaith Sgotaidd y gogledd- ddwyrain. Fe'm hatgoffir gan brif gyfeiriadau'r cwmpawd o'r arferiad hynafol o wynebu'r haul dyrchafol yn y dwyrain, gyda'r deheulaw, neu'r deheubarth, ar y llaw dde. Dwyrain yw ''an ear'' a olygai yn wreiddiol 'o flaen', a gorllewin yw ''an iar'', a olygai tu ôl. Fe geir y ddau derm mewn enwau lleoedd - er enghraifft, y gair Gaeleg am Ynysoedd Heledd gorllewin yr Alban yw ''Na h-Eileanan an Iar''.
</br>
:Y term am 'de' yw ''deas'', sydd hefyd yn golygu 'cywir'. Fe berthyn y gair o bell i'r Lladin ''dexter'' ac felly i'r Saesneg ''dextrous'', gydag atgofion eto o 'gywirdeb' a sgilgarwch.
</br />
:Cyfyd hyn o naturioldeb symudiad yr haul o'r dwyrain i'r gorllewin trwy ddeheuon yr wybren yn hemisffer y gogledd. Gwelir symudiad 'heulwedd' neu glocwedd (a elwir ''deiseil'' yn yr Aeleg) hyd heddiw yn niwylliant y Gael fel rhywbeth mwy dymunol na'r gwrthwyneb, sef ''tuathal''. Daw hwn o 'tuath', y gair Gaeleg am gogledd a olygai yn wreiddiol yn 'chwith'.
</br>
:Awgryma'r gair ''tuathal'' wedd ar annaturioldeb neu chwithdod. Mae ''deas'' a ''tuath'' yn gymharol gyffredin yn y dirwedd - er enghraifft ''Uibhist a Tuath'' (''North Uist'') a ''Uibhist a Deas'' (''South Uist''). Ond mewn llawer o ardaloedd Gaeleg eu hiaith mae dyn yn teithio ''suas gu deas'' (‘i fyny i'r de’) a ''sìos gu tuath'' (‘i lawr i'r gogledd’), sef yn groes i'r hyn a arferid yn y Gymraeg neu'r Saesneg fodern.<ref>Cyfieithwyd i'r Gymraeg o gylchgrawn Scottish Natural Heritage Haf 2011</ref>
 
Llinell 32 ⟶ 30:
 
-DEHEU-
Yng Nghronfa Enwau Lleoedd Melville Richards [http://www.e-gymraeg.co.uk/enwaulleoedd/amr/cronfa.aspx] mae oddeutu 16 safle yng Nghymru yn cyfeirio at y de ar y ffurf -''deheu''-. Pedair enghraifft sydd yn cysylltu'r gair â gwrthrych arbennig: deheuwynt (gwynt), ''deheufryn'' (bryn), ''deheuwydd'' (gwydd, coed) a ''deheubant'' (pant).
 
-GOGLEDD-
Llinell 38 ⟶ 36:
 
-DWYRAIN-
Mae tri safle yn cynnwys y ffurf enwol -''dwyrain''- (aber, garn a sownd, pob un yn Sir Benfro) ond dim un yn cynnwys y ffurfiau ansoddeiriol -''dwyrein(iol)''-.
 
Does dim enghreifftiau sy'n cynnwys y ffurfiau-''(g)orllewin(ol)''-