Gwyddor gwybodaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu
ffynonellau
Llinell 6:
 
==Hanes==
Darganfyddir gwreiddiau gwyddor gwybodaeth yn [[dogfennaeth|nogfennaeth]], maes ag ymddangosodd pan ddatblygwyd [[cyfrifiadur]]on digidol yn yr [[1940au]] a chynnar yr [[1950au]]. Yn ystod [[yr Ail Ryfel Byd]] ymddangosodd yr angen i mwyhau trachywiredd a dyfnder chwiliadau [[llyfryddiaeth|llyfryddiaethol]], ag arweiniodd at ymdrechion i newid dulliau traddodiadol o ddosbarthiad yn systemau cyfrifiadur-gytûn. Cyflwynwyd chwilio [[awtomatiaeth|awtomataidd]] ffeiliau, [[mynegai|mynegeio]] cydgysylltiedig, a [[geirfa|geirfâu]] rheoledig fel ymateb i'r angen cynyddol i greu mynediad hawdd i gynnwys [[cylchgrawn gwyddonol|cylchgronau gwyddonol]]. Cafodd [[crynodeb]]au awtomataidd o ddogfenni eu datblygu i symleiddio mynediad i ddarganfyddiadau [[ymchwil]] mwy bythfyth.
 
Yn yr [[1960au]] trosglwyddwyd casgliadau enfawr o [[dogfen|ddogfenni]] i [[cronfa ddata|gronfeydd data]] neu ffurfiau di-argraffedig, lle gall chwilio trwy'r holl wybodaeth gan ddefnyddio cyfrifiadur. Erbyn [[1980]] roedd gwyddor gwybodaeth yn faes cyd-ddisgyblaethol, ac yn ddiweddar mae meysydd megis [[deallusrwydd artiffisial]] a [[technoleg gwybodaeth|thecholeg gwybodaeth]] o fewn [[addysg]] wedi dod yn bwysig iawn.
 
==Ffynonellau==
===Ffynonellau trydyddol===
*''Microsoft Encarta Encyclopedia Standard 2005''
 
==Gweler hefyd==