Affricaneg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
Manion gyda llaw (drwy AWB) using AWB
Llinell 30:
 
==Statws a Brwydr yr Iaith==
Tybir i Afrikaans ddatblygu 50 mlynedd cyn dyfodiad [[Jan van Riebeeck]] wrth i forwyr Iseldireg fasnachu gyda'r Khoi brodorol. Yn ystod y dau can blynedd nesa fe aeth yr Iseldireg lafar drwy lawer o newid, ond cadwa'r bobl i ysgrifennu a darllen mewn Iseldireg safonol. Adnabwyd yr Iseldireg a siaradwyd yn Ne Affrica fel ''Kaaps Hollands'' ac, yn fwy dirmygus, ''kombuistaal'' ('iaith y gegin' - nid yn anhebyg i ymadrodd 'iaith a gegin gefn' a ddefnyddiwyd i gyfeirio at y Gymraeg ar un adeg).
 
Erbyn diwedd y 19g roedd cyfnabyddiaeth gan rai fod yr iaith a siaradwyd yn Ne Affrica wedi esblygu i fod yn iaith wahanol i'r Iseldireg 'safonnol'. O ganlyniad, ffurfiwyd y [[Genootskap van Regte Afrikaners]] (Afrikaans ar gyfer "Cymdeithas y Gwir Affricaniaid") ar 14 Awst 1875 yn nhref Paarl gan grŵp o siaradwyr Afrikaans o ranbarth presennol Wes Kaaps (Western Cape). Ar 15 Ionawr 1876 cyhoeddodd y gymdeithas gyfnodolyn yn Afrikaans o'r enw ''Die Afrikaanse Patriot'' ("Y Gwladgarwr Afrikaans"). Bwriad y gymdeithas oedd roi statws a defnydd i'r iaith a siaradwyd yn Ne Affrica.
 
Yn 1925 daeth yn iaith swyddogol y wlad, ynghyd â'r Saesneg (ond nid un o'r ieithoedd frodorol ddu) a chyhoeddwyd cyfieithwyd o'r [[Beibl]] i'r Afrikaans yn 1933.
Llinell 45:
==Dosbarthiad Tafodieithoedd Afrikaans==
* [[Iseldireg]]
** [[Afrikaans]]
*** '''[[Kaapse Afrikaans]]'''
*** ''Oorlams'' (tafodiaith leiaf o ran nifer, tafodiaith Afrikaans pobl frodorol y wlad, yr Oorlam, is-lwyth o'r Nama)
*** ''Oranjerivier-Afrikaans'' (Afrikaans yr Afon Oren)
*** ''Oosgrens-Afrikaans'' (Afrikaans Ffin y Dwyrain - yr Afrikaans a ddatblygodd gyda'r [[Voortrekkers]] a ymfudodd allan o'r Penrhyn tuag at dwyarain perfeddwlad De Affrica yn hanner gyntaf yr 19g)
*** ''Afrikaans Namibia''' - mae Afrikaans yn un o brif ieithoedd [[Namibia]] a bu'n iaith yno ers canrifoedd fel mam iaith ac fel lingua franca <ref>https://www.litnet.co.za/afrikaans-as-lingua-franca-in-namibie/</ref> Yn 2010-11 fel ymgais i ail-ddiffinio'r dafodiaeth fel creuwyd sioe lwyfan gerddorol ''hop-opera'' o'r enw ''Afrikaaps'' gan artistiaid Afrikaans amrywiol yn wyn ac yn arbennig o'r gymuned [[Kaapse Kleurling]]e. Trosglwyddwyd hanes y dafodiaith (a'i iaith Afrikaans) drwy gyfrwng jazz, hip-hop, caneuon traddodiadol [[Goema|goema]] a [[reggae]] gan adrodd hanes o'r dyddiau cynnar a hanes siaradwyr cynharaf yr iaith newydd, Autshumaoa ("Harry the Strandloper") i'r presenol.<ref>https://mg.co.za/article/2016-12-15-00-afrikaaps-is-an-act-of-reclamation
</ref>
 
Llinell 67:
[[Categori:Ieithoedd Germanaidd]]
[[Categori:Ieithoedd De Affrica]]
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}