Affricaneg (Afrikaans)
Siaredir yn: De Affrica a Namibia.
Parth: De Affrica (rhanbarth)
Cyfanswm o siaradwyr: 6.4 miliwn fel iaith gyntaf
6.75 miliwn gan gynnwys siaradwyr ail iaith
Safle yn ôl nifer siaradwyr:
Achrestr ieithyddol: Indo-Ewropeg

 Germaneg
  Germaneg Orllewinol
   Isel Ffranconeg
    Iseldireg
     Affricaneg

Statws swyddogol
Iaith swyddogol yn: De Affrica
Rheolir gan: Die Taalkommissie
Codau iaith
ISO 639-1 af
ISO 639-2 afr
ISO 639-3 afr
Gweler hefyd: IaithRhestr ieithoedd

Un o ieithoedd De Affrica yw Affricaneg neu Affricâns. Mae'n tarddu o'r Iseldireg ond yn sefyll ar wahân iddi fel iaith Germanaidd yn y teulu o ieithoedd Indo-Ewropeaidd.

Datblygodd Affricaneg yn Ne Affrica gyda dyfodiad yr Affricaneriaid (Boeriaid) yn y 18g. Mae'n iaith swyddogol yn y wlad ers 1925. Mae'r iaith yn cynnwys dylanwadau o ieithoedd eraill megis Ffrangeg a Saesneg a hefyd iaith y caethwaesion a'r gweithwyr a ddygwyd neu ddenwyd i weithio i'r Iseldirwyr gwreiddiol e.e. Malayeg o drefedigaethau'r Iseldiroedd yn nwyrain Asia a hefyd y brodorion Khoi a San. Mae'r iaith felly, o'r cychwyn, wedi bod yn iaith amlethnig.

Demograffeg siaradwyr Affricaneg golygu

 
Plant y Kaapse Kleurling, o'r Wes Kaap, dydy mwyafrif siaradwyr Affricaneg iaith gyntaf ddim yn bobl croenwyn

Rhenir ei siaradwyr mamiaith yn weddol gyfartal rhwng bobl gwyn a phobl o dras cymyst, y Kaapse Kleurling, h.y. y bobl gymysgryw y Penrhyn. Ceir hefyd lleiafrif fechan o bobl ddu sydd yn siarad Affricaneg fel mamiaith.

Yn ôl Cyfrifiad 2011 De Africa Archifwyd 2018-12-25 yn y Peiriant Wayback. mae 7 miliwn o bobl yn siarad Affricaneg fel iaith gyntaf (13% o'r boblogaeth). Mae'n iaith gyntaf 70% (3.5 miliwn person) o'r gymuned Kaapse Kleurling a 60% (2.7 miliwn) o'r gymuned gwyn. Ceir oddeutu 600,000 o bobl Ddu sy'n siarad Affricaneg fel iaith gyntaf hefyd.

Mae 11% o boblogaeth Namibia hefyd yn siarad Affricaneg ac yn lingua franca mewn sawl sefyllfa. Mae'r rhan fwyaf o'r siaradwyr yn ardal y brifddinas, Windhoek a'r ardaloedd sy'n ffinio â thalaith Gogledd y Penrhyn yn Ne Affrica.

Amcangyfrifir fod rhwng 15 a 23 miliwn o bobl yn gallu siarad Affricaneg fel iaith gyntaf neu ail neu drydydd iaith.

Mae Affricaneg yn nodweddiadol am fod yn un o'r ieithoedd Indo-Ewropeaidd mwyaf analytig. Hi yw'r unig iaith Germanaidd sydd wedi datblygu'n sylweddol ar gyfandir Affrica.

Statws a brwydr yr iaith golygu

Tybir i Affricaneg ddatblygu 50 mlynedd cyn dyfodiad Jan van Riebeeck wrth i forwyr Iseldireg fasnachu gyda'r Khoi brodorol. Yn ystod y ddau can mlynedd nesaf fe aeth yr Iseldireg lafar drwy lawer o newid, ond cadwa'r bobl i ysgrifennu a darllen mewn Iseldireg safonol. Adnabwyd yr Iseldireg a siaradwyd yn Ne Affrica fel Iseldireg y Penrhyn (Kaaps Hollands) ac, yn fwy dirmygus, kombuistaal ‘iaith y gegin’ (nid yn annhebyg i ymadrodd ‘iaith a gegin gefn’ a ddefnyddiwyd i gyfeirio at y Gymraeg ar un adeg).

Erbyn diwedd y 19g roedd cyfnabyddiaeth gan rai fod yr iaith a siaradwyd yn Ne Affrica wedi esblygu i fod yn iaith wahanol i'r Iseldireg 'safonnol'. O ganlyniad, ffurfiwyd y Genootskap van Regte Afrikaners (Affricaneg ar gyfer "Cymdeithas y Gwir Affricaneriaid") ar 14 Awst 1875 yn nhref Paarl gan grŵp o siaradwyr Affricaneg o ranbarth presennol Wes Kaaps (Western Cape). Ar 15 Ionawr 1876 cyhoeddodd y gymdeithas gyfnodolyn yn Affricaneg o'r enw Die Afrikaanse Patriot ("Y Gwladgarwr Affricaneg"). Bwriad y gymdeithas oedd roi statws a defnydd i'r iaith a siaradwyd yn Ne Affrica.

Yn 1925 daeth yn iaith swyddogol y wlad, ynghyd â'r Saesneg (ond nid un o'r ieithoedd frodorol ddu) a chyhoeddwyd cyfieithwyd o'r Beibl i'r Affricaneg yn 1933.

Y Taalmonument - cofeb i'r Affricaneg golygu

 
Obelisg y gofeb iaith, Taalmonument, Paarl

Un o hynodrwydd ei siaradwyr yw iddynt adeiladu'r Taalmonument, Cofeb yr Iaith Afrikaans, yn nhref Paarl yn nhalaith y Penrhyn Orllewinnol. Agorwyd y gofeb yn 1965 i nodi hannercan mlwyddiant gwneud yr iaith yn iaith swyddogol. Mae'r Gofeb yn cynnwys parc ac amgueddfa.

Llenorion golygu

Ymlith llenorion yr iaith mae Adam Small a Meville Alexander.

Dosbarthiad tafodieithoedd Affricaneg golygu

  • Iseldireg
    • Affricaneg
      • Kaapse Afrikaans (Affricaneg y Penrhyn)
      • Oorlams (tafodiaith leiaf o ran nifer, tafodiaith Affricaneg pobl frodorol y wlad, yr Oorlam, is-lwyth o'r Nama)
      • Oranjerivier-Afrikaans (Affricaneg Afon Oren)
      • Oosgrens-Afrikaans (Affricaneg Ffin y Dwyrain - yr Affricaneg a ddatblygodd gyda'r Voortrekkers a ymfudodd allan o'r Penrhyn tuag at dwyarain perfeddwlad De Affrica yn hanner gyntaf yr 19g)
      • Afrikaans Namibia' - mae Affricaneg yn un o brif ieithoedd Namibia a bu'n iaith yno ers canrifoedd fel mamiaith ac fel lingua franca [1] Yn 2010-11 fel ymgais i ail-ddiffinio'r dafodiaeth fel creuwyd sioe lwyfan gerddorol hop-opera o'r enw Afrikaaps gan artistiaid Affricaneg amrywiol yn wyn ac yn arbennig o'r gymuned Kaapse Kleurlinge. Trosglwyddwyd hanes y dafodiaith (a'i iaith Affricaneg) drwy gyfrwng jazz, hip-hop, caneuon traddodiadol goema a reggae gan adrodd hanes o'r dyddiau cynnar a hanes siaradwyr cynharaf yr iaith newydd, Autshumaoa ("Harry the Strandloper") i'r presenol.[2]

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu

 
Wikipedia
Argraffiad Affricaneg Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd
  Eginyn erthygl sydd uchod am iaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Dde Affrica. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Chwiliwch am Affricaneg
yn Wiciadur.