Slafonia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mae '''Slavonia''' neu '''Slafonia''' yn yr orgraff Gymraeg, yn ranbarth ddaearyddol a hanesyddol yn nwyrain Croatia. Dyma'r 'fraich' uchaf yn y siap...'
 
Llinell 4:
 
==Hanes==
Yr enw ar yr ardal ers amser maith yw Slafonia a'i thrigolion yn Slafoniaid [1]. Hyd nes 1849, roedd Slafonia ynghyd â pherfeddwlad Croatia, yn ran o ymerodraeth neu wladwriaeth [[Hwngari]] gydag [[Osijek]] yn brifddinas arni.
 
O dan [[Augustus]] Cesar, Ymerawdwr yr [[Ymerodraeth Rufeinig]], meddiannwyd tir gwastad [[Pannonia]] (Hwngari gyfoes a thiroedd oddi cwmpas) ac fe gelwid yn Pannonia Savia ar ôl yr afon Sava. Dywedir i'r Ymerawdwr, [[Probus]], ddatblygu diwylliant y winwydden. Yn ddiweddarach, pasiodd y rhanbarth o dan reolaeth yr [[Ymerodraeth Fysantaidd]] am gyfnod. Yn dilyn goresgyn y diriogaeth gan yr [[Afariaid]] ('Avars') a erlidwyd gan filwyr [[Siarlymaen]] cafwyd mewnfudiad o slafiaid o dalaith [[Dalmatia]] ar yr arfordir.