Slafonia

rhanbarth/talaith hanesyddol yn Croatia

Rhanbarth hanesyddol yn nwyrain Croatia yw Slafonia[1] (Croateg: Slavoija). Dyma'r fraich uchaf o dir yn y siâp cryman sy'n nodweddu amlinell tiriogaeth Croatia, ac mae'n un o bedwar rhanbarth hanesyddol y wlad, ynghyd â pherfeddwlad Croatia neu Groatia yn ei hanfod (Središnja Hrvatska), Dalmatia, ac Istria. Cynrychiolir Slafonia gan darian gyda bela ar gefndir glas ar arfbais Croatia, a ymddangosir hefyd ar y faner genedlaethol. Mae ganddi dir amaethyddol ffrwythlon a choediog sy'n ffinio ag Afon Drava i'r gogledd, Afon Sava i'r de, ac Afon Donaw i'r dwyrain.

Slavonia
Mathgwastatir, endid tiriogaethol gweinyddol, ardal hanesyddol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Croatia Croatia
Arwynebedd12,556 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau45.45°N 17.9167°E Edit this on Wikidata
Map

Er ei bod yn un o ranbarthau hanesyddol y wlad, nid yw Slafonia yn adran lywodraethol o fewn y Groatia gyfoes. Mae'n 12,556 km sgwâr, sef dros hanner maint Cymru, ond â phoblogaeth o dim ond 806,192, sef llai na thraean o boblogaeth Cymru.

Ni ddylid drysu Slafonia gyda Slofenia (Slofeneg: Slovenija), y wladwriaeth annibynnol sy'n ffinio â gogledd-orllewin Croatia.

Yr enw ar yr ardal ers amser maith yw Slafonia a'i thrigolion yn Slafoniaid. Hyd nes 1849, roedd Slafonia ynghyd â pherfeddwlad Croatia, yn ran o ymerodraeth neu wladwriaeth Hwngari gydag Osijek yn brifddinas arni.

O dan Augustus Cesar, Ymerawdwr yr Ymerodraeth Rufeinig, meddiannwyd tir gwastad Pannonia (Hwngari gyfoes a thiroedd oddi cwmpas) ac fe gelwid yn Pannonia Savia ar ôl Afon Sava. Dywedir i'r Ymerawdwr, Probus, ddatblygu diwylliant y winwydden. Yn ddiweddarach, pasiodd y rhanbarth o dan reolaeth yr Ymerodraeth Fysantaidd am gyfnod. Yn dilyn goresgyn y diriogaeth gan yr Afariaid ("Avars") a erlidwyd gan filwyr Siarlymaen cafwyd mewnfudiad o Slafiaid o dalaith Dalmatia ar yr arfordir.

Yn y 9g, daeth yr ardal dan ddylanwad Cristnogaeth gan y seintiau Uniongred, Cyril a Methodius. Er i'r llwythi wrthsefyll y Bwlgariaid, syrthiodd dan reolaeth yr Hwngariaid yn 10g. Yn gynnar yn y 12g, ailymgeisiodd yr Ymerodraeth Fysantaidd gipio'r tir ond fe'i trechwyd yn 1127. Yn ôl pob tebyg bu iddynt ymgeisio eto yn 1162, ond methu am y tro olaf.

Rheolwyd Slafonia wedyn gan uchelwyr (Ban) lleol gan dywysogion tŷ brenhinol Hwngari. Yn 1471, ymosodwyd ar y tiriogaeth gan y Tyrciaid Otomanaidd (1471–1476) ac yna yn 1484 a 1524. Mae cytundeb a lofnodwyd ym 1562 cyflwynwyd Slafonia i'r Ymerodraeth Otomanaidd tra bod Croatia (y dalaith) yn feddiant i Awstria. Daeth y cyfnod yma o dan reolaeth y Tyrciaid i ben yn 1699 yn sgil Cytundeb Karlowitz.[2]

Rhyfel Annibyniaeth Croatia

golygu

Yn sgil cwymp yr hen Iwgoslafia yn dilyn datganiad annibyniaeth Croatia yn 1991, datganodd y Serbiaid yn ardal Krajina eu gwladwriaeth annibynnol eu hunain, ac yna pocedi o ddwyrain a gorllewin talaith Slafonia gan gynnwys dinasoedd a threfi Osijek, Vinkovci, Županja, Vukovar, Ilok, a Baranja. Yn y rhannau yma o'r Krajina (mae'r gair yn golygu "Gororau" neu "tir y ffin" mewn Serbo-Croateg) roedd y boblogaeth yn gymysg ethnig ond gyda mwyafrif o ran niferoedd yn Groatiaid. Arweiniodd hyn at ryfel. Roedd y rhan orllewinnol yn cynnwys crib ddaearyddol Okučani a'r rhan fwyaf o fynyddoedd Psunj. Ym mis Mai 1995, dychwelwyd y rhan orllewinnol i reolaeth Croatia annibynnol yn dilyn llwyddiant Cadgyrch Storm (Operacija Oluja yn Groateg). Dychwelwyd gweddill rhan ddwyreiniol y dalaith i Groatia yn 1998.

Hynodrwydd

golygu
  • NK Osijek yw prif dîm pêl-droed broffesiynnol y dalaith.
  • Glas Slavonije ("Newyddion Slafonia") ydy papur lleol y dalaith. Fe'i rheolir gan Branimir Glavaš, gwleidydd ceidwadol o Osijek.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Geiriadur yr Academi, "Slafonia".
  2. Dezobry et Bachelet, Dictionnaire de biographie, T. 1, 1878, Nodyn:P..

Dolenni allanol

golygu