Mwynfeydd Copr y Gogarth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Llinell 2:
[[Delwedd:Gogarth_cloddfa_3.jpg|bawd|400x300px|Golygfa o'r Gogarth]]
[[Y Gogarth]] yw'r enw a ddefnyddir gan rai ond honnir mai Mynydd Llandudno yw'r hen enw cywir. Enwau erail yw Y Gogarth Fawr, Pen y Gogarth, Cyngreawdwr, Pen y Gwylfryn ac Yr Orm.
Safle [[mwyngloddio]] [[copr]] a leolir ar [[Pen y Gogarth|Ben y Gogarth]] ac sy'n dyddio i'r [[Oes Efydd]] yw '''Mwynfeydd Copr y Gogarth'''. Mwyngloddiwyd hefyd rhwng 1692 O.C. ac 1881 O.C. pan gariwyd miloedd o dunelli o wastraff mwyngloddio allan o'r gloddfa a'i daflu dros wyneb y safle, gan guddio'n llwyr geg y twneli. Yn 1987 ailagorwyd y siafftau, y twneli a'r siambrau isod. Dyna'r pryd y sylweddolwyd oed a phwysigrwydd y mwynffeyddmwynfeydd.
 
Ym mis Ebrill 1991 agorwyd safle Mwynfeydd Copr y Gogarth i'r cyhoedd, gan roi cyfle i ymwelwyr weld drostynt eu hunain un o'r darganfyddiadau archeolegol mwyaf arwyddocaol yn ddiweddar. Adeiladwyd llwybrau a llwyfannau gwylio i roi mynediad i'r cloddiadau wyneb. Yn 1996 codwyd pont dros ben Siafft Vivian.
Mae estyniad y ganolfan ymwelwyr, a adeiladwyd yn 2014, yn cynnwys detholiad o offer mwyngloddio ac echel efydd ynghyd ag arddangosfeydd am fywyd a marwolaeth yn yr [[Oes yr Efydd|Oes Efydd]], mwyngloddio a meteleg hynafol. Mae ffilm ragarweiniol gyda lluniau gwreiddiol o'r cloddiadau yn esbonio darganfyddiad y pwll.
 
==Daeareg==