Llên Wrwgwái: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B cywiro dyddiad
B gair
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 4:
 
[[Delwedd:José Enrique Rodó 2.jpg|bawd|José Enrique Rodó.]]
Ar ddiwedd y 19g ymddangosodd y to o lenorion a elwir ''[[La Generación del 900]]''. Llenor enwocaf y wlad mae'n bosib, a dylanwad pwysig ar wledydd eraill America Ladin, yw [[José Enrique Rodó]] (1871–1917), sy'n nodedig am ei lyfr ''Ariel'' (1900), gwaith modernaidd sy'n amddiffyn yn erbyn tra-arglwyddiaeth ddiwyllianniol Ewrop a'r Unol Daleithiau. Modernydd arall ar droad y ganrif oedd y bardd [[Julio Herrera y Reissig]] (1875–1910). Un o'r dramodwyr gwychaf yn holl lên America Ladin yw [[Florencio Sánchez]] (1875–1910), a chânt ei ddramâu eu perfformio hyd heddiw. Yn hanner cyntaf yr 20g blodeuai beirdd ramantaiddrhamantus megis [[Delmira Agustini]] (1886–1914) a [[Juana de Ibarbourou]] (1892–1979), ac ysgrifennwyd hefyd [[barddoniaeth delynegol]] gan [[Emilio Frugoni]] (1880–1969) ac [[Emilio Oribe]] (1893–1975). Caiff [[Horacio Quiroga]] (1878–1937) ei ystyried yn un o feistri'r [[stori fer]] Sbaeneg.
 
Ymhlith mawrion y wlad ers canol yr 20g mae [[Juan Carlos Onetti]] (1909–94), ffuglennwr a nodir am ei straeon seicolegol, a [[Mario Benedetti]] (1920–2009), bardd, nofelydd ac ysgrifwr o fri ac un o hoelion wyth ''[[La Generación del 45]]''. Llenor ffeithiol amlycaf y wlad yn niwedd yr 20g oedd [[Eduardo Galeano]] (1940–2015), awdur y gweithiau hanes ''Las venas abiertas de América Latina'' (1971) a thriawd ''Memoria del fuego'' (1982–87). Dramodydd cyfoes pwysicaf y wlad yw [[Jacobo Langsner]] (g.1927).