Slafonia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cyf
Tagiau: Golygiad cod 2017
Dim crynodeb golygu
Llinell 33:
Yr enw ar yr ardal ers amser maith yw Slafonia a'i thrigolion yn Slafoniaid. Hyd nes 1849, roedd Slafonia ynghyd â pherfeddwlad Croatia, yn ran o ymerodraeth neu wladwriaeth [[Hwngari]] gydag [[Osijek]] yn brifddinas arni.
 
O dan [[Augustus]] Cesar, Ymerawdwr yr [[Ymerodraeth Rufeinig]], meddiannwyd tir gwastad [[Pannonia]] (Hwngari gyfoes a thiroedd oddi cwmpas) ac fe gelwid yn Pannonia Savia ar ôl Afon Sava. Dywedir i'r Ymerawdwr, [[Probus]], ddatblygu diwylliant y winwydden. Yn ddiweddarach, pasiodd y rhanbarth o dan reolaeth yr [[Ymerodraeth Fysantaidd]] am gyfnod. Yn dilyn goresgyn y diriogaeth gan yr [[Afariaid]] ("''Avars''") a erlidwyd gan filwyr [[Siarlymaen]] cafwyd mewnfudiad o [[Slafiaid]] o dalaith Dalmatia ar yr arfordir.
 
Yn y 9g, daeth yr ardal dan ddylanwad [[Cristnogaeth]] gan y seintiau Uniongred, [[Cyril a Methodius]]. Er i'r llwythi wrthsefyll y [[Bwlgaria|Bwlgariaid]], syrthiodd dan reolaeth yr Hwngariaid yn 10g. Yn gynnar yn y 12g, ailymgeisiodd yr Ymerodraeth Fysantaidd gipio'r tir ond fe'i trechwyd yn 1127. Yn ôl pob tebyg bu iddynt ymgeisio eto yn 1162, ond methu am y tro olaf.
 
Rheolwyd Slafonia wedyn gan uchelwyr (''Ban'') lleol gan dywysogion tŷ brenhinol Hwngari. Yn 1471, ymosodwyd ar y tiriogaeth gan y Tyrciaid Otomanaidd (1471-14761471–1476) ac yna yn 1484 a 1524. Mae cytundeb a lofnodwyd ym 1562 cyflwynwyd Slafonia i'r [[Ymerodraeth Otomanaidd]] tra bod Croatia (y dalaith) yn feddiant i [[Awstria]]. Daeth y cyfnod yma o dan reolaeth y Tyrciaid i ben yn 1699 yn sgil [[Cytundeb Karlowitz]].<ref>Dezobry et Bachelet, ''Dictionnaire de biographie'', T. 1, 1878, {{p.|943-944}}.</ref>
 
== Rhyfel Annibyniaeth Croatia ==
Yn sgil cwymp yr hen [[Iwgoslafia]] yn dilyn datganiad annibyniaeth Croatia yn 1991, datganodd y [[Serbiaid]] yn ardal Krajina eu gwladwriaeth annibynnol eu hunain, ac yna pocedi o ddwyrain a gorllewin talaith Slafonia gan gynnwys dinasoedd a threfi Osijek , Vinkovci , Županja , [[Vukovar]] , Ilok, a Baranja . Yn y rhannau yma o'r Krajina (mae'r gair yn golygu '"Gororau'" neu '"tir y ffin'" mewn [[Serbo-Croateg]]) roedd y boblogaeth yn gymysg ethnig ond gyda mwyafrif o ran niferoedd yn [[Croatiaid|Groatiaid]]. Arweiniodd hyn at ryfel. Roedd y rhan orllewinnol yn cynnwys crib ddaearyddol Okučani a'r rhan fwyaf o fynyddoedd Psunj. Ym mis Mai 1995, dychwelwyd y rhan orllewinnol i reolaeth Croatia annibynnol yn dilyn llwyddiant Cadgyrch Storm (''Operacija Oluja'' yn Groateg). Dychwelwyd gweddill rhan ddwyreiniol y dalaith i Groatia yn 1998.
 
== Hynodrwydd ==