Hadrian: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 5:
| dateformat = dmy
}}
 
'''Caesar Traianus Hadrianus Augustus''' neu '''Hadrian''' ([[24 Ionawr]] [[76]] - [[10 Gorffennaf]] [[138]]) oedd [[Ymerodron Rhufeinig|Ymerawdwr Rhufain]] o [[11 Awst]] [[117]] hyd ei farwolaeth. Ganwyd '''Publius Aelius Traianus'''.
 
Llinell 10 ⟶ 11:
 
Newidiodd Hadrian bolisi Trajan o ymestyn ffiniau'r [[Yr Ymerodraeth Rufeinig|ymerodraeth]] a chanolbwyntiodd ar amddiffyn ffiniau'r ymerodraeth fel yr oedd. Gollyngodd ei afael ar rai o'r tiriogaethau a goncrwyd gan Trajan yn [[Dacia]]. Fel rhan o'r un polisi adeiladodd y mur a adwaenir fel [[Mur Hadrian]] ym [[Y Brydain Rufeinig|Mhrydain]]. Ef hefyd a adeiladodd y [[Pantheon]] yn [[Rhufain]].
[[Delwedd:CRW 2684.jpg|bawd|chwith|250 px|Mur Hadrian]]
 
Fel ymerawdwr, treuliodd Hadrian lawer o'i amser yn teithio o amgylch yr ymerodraeth, a bu'n gyfrifol am lawer o adeiladu mewn gwahanol rannau ohoni. Roedd yn hoff iawn o [[Groeg yr Henfyd|ddiwylliant Groeg]], ac adeiladodd deml enfawr i [[Zeus]] yn [[Athen]]. Ceisiodd hefyd ail-adeiladu [[Jeriwsalem]] fel dinas Roegaidd, ond arweiniodd hyn at wrthryfel gan yr [[Iddewon]] dan arweiniad [[Simon bar Kochba]].
 
[[Delwedd:Fachada del Panteón de Roma.jpg|bawd|dde|240px|Y Pantheon]]
 
Nid oedd gan Hadrian blant, a dewisodd [[Antoninus Pius]] fel ei olynydd, ar yr amod ei fod ef yn dewis perthynas pell i Hadrian, Marcus Aurelius Verus, fel ei olynydd yntau. Yn ddiweddarach daeth Marcus Aurelius Verus yn ymerawdwr dan yr enw [[Marcus Aurelius]].
 
<gallery heights="180px" mode=packed>
[[Delwedd:CRW 2684.jpg|bawd|chwith|250 px|Mur Hadrian]]
[[Delwedd:Fachada del Panteón de Roma.jpg|bawd|dde|240px|Y Pantheon]]
</gallery>
 
== Gweler hefyd ==
Llinell 34 ⟶ 37:
{{eginyn Rhufain}}
 
[[Categori:Ymerodron Rhufeinig]]
[[Categori:Genedigaethau 76]]
[[Categori:Marwolaethau 138]]
[[Categori:Ymerodron Rhufeinig]]