Pasg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Cyfeiriadau: Ychwanegu infobox person/wikidata using AWB
B dol
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 1:
[[Delwedd:Resurrection.JPG|bawd|''Atgyfodiad Crist'' gan [[Piero della Francesca]]]]
 
Gŵyl bwysicaf [[Cristnogaeth]] yw'r '''Pasg''' ([[Groeg]]: '''Πάσχα''', ''Pascha''). Mae Cristnogion drwy'r byd yn dathlu [[atgyfodiad yr Iesu|atgyfodiad]] [[Iesu Grist]] ar [[Dydd Sul y Pasg|Ddydd Sul y Pasg]], ar ôl ei [[croeshoelio|groeshoelio]] ar [[Dydd Gwener y Groglith|Ddydd Gwener y Groglith]], sef y Dydd Gwener cyn hynny.
 
Digwyddodd y Groeshoeliad yn ystod y ''Pasg Iddewig'', gŵyl sy'n cael ei disgrifio yn yr [[Hen Destament]] ([[Llyfr Exodus|Exodus]] 12:1-30). Mae'r Pasg Cristnogol wedi ei sylfaenu ar y Pasg Iddewig yn drosiadol hefyd: mae'r [[Testament Newydd]] yn galw Iesu yn "Oen y Pasg" ([[Llythyr Cyntaf Paul at y Corinthiaid|1 Corinthiaid]] 5:7).