Diwygiad 1904–1905: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 28:
 
=== Evan Roberts a Chasllwchwr ===
Roedd [[Evan Roberts (gweinidog)]] yn ddyn ifanc a ddylanwadwyd arno gan y storiâu oedd yn dod i Geinewydd a Blaenannerch. Fe deimlodd alwad i fynd i'r weinidogaeth ac fe aeth am ei hyfforddiant bugeiliol i [[Castell Newydd Emlyn|Gastell Newydd Emlyn]]; wrth gwrs daeth i dde [[Ceredigion]] yn ystod cynnwrf mawr Blaenannerch. Fe ddaeth Seth Joshua, un o arweinwyr eraill y diwygiad, i'r ardal i gynnal cyfarfodydd, disgwyliai Evan Roberts ymlaen yn eiddgar. Yn ystod ail bregeth Seth Joshua ym Mlaenannerch fe syrthiodd Evan Roberts i'r llawr a gwaeddu allan “Plyg fi; plyg fi; plyg ni!”.
 
Wedi tri mis o hyfforddiant yng Nghastell Newydd Emlyn fe ddychwelodd Evan Roberts i Gasllwchwr i ddechrau ar ei weinidogaeth. Dywedir iddo gael gweledigaethau uniongyrchol gan yr [[Ysbryd Glân]], gweledigaethau penodol iawn megis y rhif 100,000 oedd yn cynrychioli yr eneidiau y byddai Duw yn eu hachub trwyddo ef. Wrth i'r diwygiad fynd rhagddi daeth Evan Roberts yn fwyfwy dibynnol ar yr Ysbryd Glân yn ei bregethu yn hytrach na'r Beibl. Serch hynny roedd ei weinidogaeth yn llwyddianus. Yn aml fe ddechreuodd gyfarfodydd wrth adrodd hanes yr hyn oedd yn digwydd yng Ngheinewydd a Blaenannerch, yna fe heriai'r torf o wrandawyr ynglŷn â'u cyflwr ysbrydol hwynt-hwythau. Yn fuan fe ddeffrôdd y dyrfa yng Nghasllwchwr, roedd y diwygiad wedi lledu yna, ac fe aeth cyfarfodydd ymlaen tan oriau mân y bore. Wedi i'r tân gael ei gynnau yng Nghasllwchwr fe aeth Evan Roberts ar daith drwy'r cymoedd er mwyn lledu'r diwygiad.