Iâr (ddof): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Holder (sgwrs | cyfraniadau)
B corr
Llinell 56:
 
'''Cadw ieir yn Ty Crwn, Bodorgan, 1955-1962.'''
Yn 1955 penderfynwyd i gadw ieir ar gyfer cynyrchu wyau i’w gwerthu. Codwyd cwt pwrpasol i’w cartrefu. Cwt o frics a to asbestos , tua 27 troedfedd wrth 15 troedfedd, gyda llawr o gonctit . Yr oedd iddo drws a tair ffenast, clwydi a blychod iddynt ddodwy eu wyau. Prynu 100 o gywion mis oed o Finney Bros, oedd yn cael eu gyrru mewn bocsus cardboard i Station Bodorgan.
 
Pryd hynny roedd chwech yn gweithio yn y station: y Station Feistr, un clerc, dau borter a dau ''signalman''. Erbyn heddiw, does neb yn y station i dderbyn bocsus o gywion na dim byd arall ran hynny. Brid yr ieir oedd 50 o Rhode Island Red (ddim y rhai gorau am ddodwy ond yn pwyso mwy pan ddoi’n amser eu gwerthu) a 50 o White Legorn (gwell am ddodwy ond yn ysgafnach iar). Cadw’r ieir i mewn ar Deep Litter*, sef haen o wellt ceirch ar lawr y cwt. Ychwanegwyd haen newydd i gadw’r llawr yn lan, fel bo’r galw.