Kelibia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 5:
Mae '''Kelibia''' ('''Kélibia''') ([[Arabeg]]: قليبية) yn dref arfordirol ar arfordir gogledd-ddwyreiniol [[Cap Bon]], yn nhalaith [[Nabeul (talaith)|Nabeul]] yng ngogledd-ddwyrain [[Tiwnisia]]. Mae'n 58 km i'r gogledd o ddinas [[Nabeul]]. Dominyddir y borthladd yr hen gaer [[Ymerodraeth Fysantaidd|Fysantaidd]]. Mae Kelibia yn borthladd [[pysgota]] sy'n gartref i Ysgol Bysgota Genedlaethol Tiwnisia. Mae gan y dref boblogaeth o 43,209 (2004), gyda'r mwyafrif yn byw yn y dref newydd tua milltir i'r de-orllewin o'r borthladd.
 
Kelibia oedd prif ganolfan Cap Bon yn y cyfnod [[Rhufeiniaid|Rhufeinig]], oherwydd ei sefyllfa strategol a'i harbwr dwfn. Dechreuodd fel tref fechan [[Berberiaid|Ferber]]. Cafodd ei datblygu gan y [[Carthago|Carthaginaid]] o'r 5g CC ymlaen. Codwyd caer ganddynt ar safle'r gaer ganoloesol bresennol a oedd yn rhan bwysig o darian amddiffyn [[CarthageCarthago]] ei hun, gan roi iddi ei henw [[Ffeniceg]] ''Aspis'' ('tarian'). Cipiwyd y dref gan y Rhufeiniaid dan [[Regulus]] a thyfodd yn ddinas Rufeinig dan yr enw ''Clypea'' (a ddaeth yn 'Kelibia' gyda threiglad amser).
 
Cododd y Bysantiaid gaer newydd ar safle'r gaer Garthagenaidd yn y [[6g]] OC. Fe'i meddianwyd ar ôl hynny gan yr [[Arabiaid]], y [[Sbaen]]wyr (am gyfnod byr yn yr [[16g]]) a'r [[Ymerodraeth yr Otomaniaid|Otomaniaid]]. Yn yr [[Ail Ryfel Byd]] cafodd ei defnyddio gan y lluoedd [[Almaen]]ig.