Anufudd-dod sifil: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
dp
Tagiau: Golygiad cod 2017
ehangu fymryn
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 1:
{{Gwleidyddiaeth}}
Gwrthod i ufuddhau i orchmynion yr awdurdodau neu ddeddfau'r [[llywodraeth]] yw '''anufudd-dod sifil''' ac hynny â'r nod o orfodi newid mewn polisi neu ryw agwedd o'r drefn wleidyddol. Gallai'r gyfraith a dorrir ei hun ei hystyried yn annilys neu'n anfoesol, neu allai'r troseddu fod yn ffordd o dynnu sylw at anghyfiawnder neu achos arall. Fel rheol mae'n cyfeirio at ddulliau di-drais a goddefol o droseddu, ac wrth ymwrthod â [[trais|thrais]] dyma gyfiawnhad yr anufuddhäwr dros dorri'r gyfraith ar dir cydwybod.
 
Fel rheol mae'n cyfeirio at ddulliau di-drais a goddefol o anghydymffurfio â'r gyfraith, ond mae union ddiffiniad didreisedd yn amrywio. Modd o wrthdystio neu wrthsefyll ydyw sydd yn tynnu sylw i achos yr anufuddhäwr ac yn peri rhywfaint o aflonyddwch, trafferth, neu wastraff i'r awdurdodau. Gweithred symbolaidd ydyw yn hytrach na gwrthwynebiad i'r drefn wleidyddol a'r gyfraith gyfan, a gobaith yr anufuddhäwr yn aml ydy gosod esiampl foesol drwy dderbyn ei gosb am dorri'r gyfraith. Trwy herio'r awdurdodau yn gyhoeddus a thynnu sylw ei gyd-ddinasyddion at ei achos, ei nod yw gwthio'r llywodraeth i weithredu. Mae rhai ymgyrchwyr yn arddel anufudd-dod sifil yn athroniaeth gyffredinol er newid cymdeithas, ac eraill yn ei ystyried yn dacteg i'w defnyddio pan nad oes ffyrdd cyfreithlon o weithredu. Yn achos hwnnw, moesoldeb sydd yn sail i rym y protestwyr, yn niffyg grym gwleidyddol, cyfreithiol, neu economaidd ganddynt.
 
I gael effaith ar ei darged, mae'n rhaid i anufudd-dod sifil nid yn unig fod yn niwsans i'r drefn ond hefyd i apelio at foesoldeb y gymdeithas. Bu anufudd-dod sifil yn dacteg bwysig gan sawl mudiad cymdeithasol a gwleidyddol, gan gynnwys [[cenedlaetholdeb|cenedlaetholwyr]] a gwrthdrefedigaethwyr ar draws [[Affrica]] ac [[Asia]], ymgyrchwyr [[hawliau sifil]], [[undeb llafur|undebau llafur]], y [[mudiad heddwch]], ac [[mudiad iaith|ymgyrchwyr iaith]], ac [[amgylcheddaeth|amgylcheddwyr]]. Ymhlith y dulliau cyffredin o anufudd-dod sifil mae ymwrthod â thalu treth, atal ffyrdd, a gorymdeithio neu feddiannu adeilad heb ganiatâd.
 
== Diffiniad ==
Yr hyn sydd yn gwahaniaethu anufudd-dod sifil oddi ar dor-cyfraith arferol ydy'r cyfiawnhad moesol, didreisedd, a chyhoeddusrwydd. Oherwydd cymhelliad anhunanol honedig yr anufuddhäwr, câi anufudd-dod sifil ei ystyried yn wahanol ei fwriad i weithgareddau anghyfreithlon eraill, ac yn ôl ei gefnogwyr yn haws ei amddiffyn. Fel arfer dadleuasant bod protestiadau o'r fath er budd y gymdeithas oll, gan eu bod yn tynnu sylw at anghyfiawnderau neu broblemau cymdeithasol sydd yn effeithio ar les pawb.<ref name=Bigalke>Ron J. Bigalke, Jr, "Civil Disobedience" yn ''The Encyclopedia of Political Science'' cyfrol 1, golygwyd gan George Thomas Kurian et al. (Washington, D.C.: CQ Press, 2011), t. 236.</ref>
 
== Enghreifftiau o fudiadau sydd yn defnyddio anufudd-dod sifil ==
Llinell 12 ⟶ 15:
* [[Gwrthryfel Difodiant]]
* mudiad hawliau sifil Affro-Americanaidd yn [[Unol Daleithiau America]]
 
== Cyfeiriadau ==
{{cyfeiriadau}}
 
== Darllen pellach ==
Llinell 17 ⟶ 23:
* Christian Bay a Charles Walker, ''Civil Disobedience: Theory and Practice'' (St Paul, Minnesota: Black Rose Books, 1975).
* Hugo Bedau, ''Civil Disobedience: Theory and Practice'' (Efrog Newydd: Pegasus, 1969).
* James F. Childress, ''Civil Disobedience and Political Obligation'' (New Haven, Connecticut: Yale University Press, 1971).
* Ernest van den Haag, ''Political Violence and Civil Disobedience'' (Efrog Newydd: Harper & Row, 1972).
* Elliot M. Zashin, ''Civil Disobedience and Democracy'' (Efrog Newydd: Free Press, 1972).
 
[[Categori:Anufudd-dod sifil| ]]
[[Categori:Gweithredaeth]]